Mae arian parod gafodd ei atafaelu oddi ar droseddwyr wedi helpu sicrhau dyfodol caffi cymunedol poblogaidd sy’n cael ei redeg o hen eglwys yng Ngogledd Cymru.
Mae grant hanfodol wedi diogelu’r prosiect Caffi Cymunedol a lles yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn y Rhyl sydd wedi bod yn cynnig mannau cynnes, sesiynau creadigol a bwyd cartref i breswylwyr ers mis Gorffennaf.
Gall Prosiect Allgymorth y Drindod, sy’n croesawu mwy nag 20 o bobl bob wythnos ar gyfer crefftau, sgyrsiau a chinio poeth, rŵan barhau i’r Flwyddyn Newydd, diolch i grant gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT).
Sefydlwyd prosiect peilot yn yr eglwys – a gaeodd sawl blwyddyn yn ôl – yn yr haf ac mae ei lwyddiant wedi argyhoeddi’r trefnwyr y gall ddod yn achubiaeth barhaol i bobl fregus ledled y dref.
Mae’r Parch Mae Helen Gheorghiu Gould, gweinidog pontio ar gyfer Ardal Genhadol Aber Morfa, wedi bod yn arwain y cynllun ar ôl degawd o ddatblygu mentrau cymunedol eglwysig tebyg.
Dywedodd y Parchedig Gould, sy’n dod o Brestatyn: “Cefais fy mhenodi ddwy flynedd yn ôl i helpu’r gynulleidfa yma ailfeddwl pwrpas y gymuned Gristnogol a llunio eu gweledigaeth nhw ar gyfer y dyfodol.
“Fy rôl i ydy bod yn gynrychiolydd newid – mae’r rhan fwyaf o ficeriaid wedi setlo yn eu cymuned nhw, ond dwi’n cydweithio hefo gwahanol gymunedau ar brosiectau fel hyn.
“Dywedodd y bobl eu bod eisiau nhw i brosiect fod yn ymwneud hefo cymrodoriaeth a lletygarwch hefo’r syniad o rywbeth sy’n seiliedig ar fwyd. Fe gymerodd o fis Chwefror y llynedd i sefydlu’r caffi cyn rhoi cynnig arno ym mis Ebrill.
“Yn fuan dangosodd ei werth wrth i ni ddarganfod gan bobl yr hyn oedden nhw eisiau digwydd yma. Cafodd ei lansio ddiwedd mis Gorffennaf hefo’r grant gan PACT yn sicrhau ein bod yn gallu ymrwymo i ddal ati.
“Mae wedi gweithio’n dda iawn ac ers hynny mae ein gwirfoddolwyr wedi rhoi 836 o oriau cymunedol. ‘Da ni wedi cael cyfanswm o 590 o ymwelwyr, llawer ohonyn
nhw wedi dod yn rheolaidd ac yn cynnwys Wayne Walton a ddaeth fel ymwelydd ac arhosodd i fod yn wirfoddolwr.
“Mae wedi denu pobl fregus a’r rhai sydd hefo anghenion iechyd meddwl a chorfforol, pobl ddigartref, pobl hefo dibyniaethau, yn ogystal â phobl leol sydd eisiau dod i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol. Mae’r ystod hon o gyfranogwyr wedi bod yn nodweddiadol o’i lwyddiant.
“Mae rhai pobl hefo dibyniaeth wedi dechrau mynychu adsefydlu trwy gysylltu hefo gwasanaethau trwy’r caffi. ‘Da ni wedi gallu helpu ac annog pobl eraill geisio help a’u rhoi nhw mewn cysylltiad hefo asiantaethau lleol.
“Roedd help PACT yn ein galluogi ni barhau eleni a diolch i hynny gallwn ni rŵan edrych ymlaen at barhau yn 2026 ac at lansio Hyb Bwyd y Rhyl yma gan weithio hefo Cymdeithas Tai Clwyd Alyn.”
Mae cyn-Warden yr Eglwys Rosemary Hughes, sy’n aelod o’r gynulleidfa ers dros 50 mlynedd, bellach yn dod yn rheolaidd i’r Prosiect Allgymorth a dywedodd: “Dwi’n dod yma bob dydd Llun gan amlaf, ac mae wedi bod yn anhygoel yr hyn mae wedi’i wneud i’r dref.
“Mae’n ymwneud hefo cynnwys yr eglwys yn y gymuned, ac mae’n gwneud i bobl deimlo bod yna rywle y gallan nhw ddod i gael eu croesawu. Maen nhw’n dod yn ôl bob wythnos sy’n dangos ei fod yn angenrheidiol ac nid oes rhaid i chi fod yn aelod o’r eglwys i ddod.”
Dywedodd Wayne Walton sy’n byw’n lleol: “Mi ddes i mewn am baned o goffi un diwrnod ac mi ofynnais i a oedd angen unrhyw help arnyn nhw a dwi wedi bod yn dod ers hynny.
“Dysgodd fy nain i mi sut i goginio felly dwi’n rhoi help llaw, a dwi wrth fy modd. Mae’n rhoi rhywbeth i mi ei wneud.”
Dywedodd y gyrrwr coets wedi ymddeol Archie McIntyre o Alltmelyd: “Dwi’n mynd i wasanaethau yn yr eglwys, ac mi ddechreuais i ddod yma am ychydig o gwmni ar ôl colli fy ngwraig.
“Dwi’n mwynhau’r gweithdy crefft sydd ganddyn nhw, a dwi’n falch ei fod yn dal ati.”
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Mae Prosiect Allgymorth y Drindod yn enghraifft wych o sut y gall swm bach o help penodol greu argraff enfawr.
“Yr hyn y mae’r tîm wedi’i gyflawni yma – creu gofod saff, croesawgar i bobl a allai fod fel arall yn ynysig – ydy’r union fath o gryfder cymunedol ‘da ni am ei annog ledled Gogledd Cymru.
“Fe wnaethon ni ddyfarnu’r grant oherwydd bod y grant hwn yn mynd i’r afael hefo angen gwirioneddol ar lawr gwlad, o unigrwydd i gaethiwed, ac yn cysylltu pobl hefo help lleol dibynadwy.
“Mae gwybod bod yr arian a gymerwyd o weithgarwch troseddol bellach yn helpu trigolion ailadeiladu hyder ac ysbryd cymunedol yn union pam mae PACT yn bodoli a ‘da ni’n falch o chwarae rhan yn ei ddyfodol.”
Mae Prosiect Allgymorth y Drindod ond yn un o nifer sydd wedi cael help PACT. Lansiwyd PACT, sy’n elusen annibynnol, yn 1998. Mae’n helpu mentrau cymunedol, yn enwedig y rhai hynny y mae’r heddlu ynghlwm hefo nhw.
Yn yr amser hwnnw, mae wedi cynorthwyo dros 2,500 o brosiectau, gan fuddsoddi mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Ashley Rogers: “I nifer o bobl sydd wedi bod yn rhan o’r prosiectau, dyma eu cyswllt cyntaf nhw hefo’r heddlu. Felly, mae gwneud hwn yn brofiad cadarnhaol yn gallu cael canlyniadau mawr ar eu penderfyniadau bywyd nhw yn y dyfodol.
“O Wynedd yn y gorllewin draw i Sir y Fflint a Wrecsam yn y dwyrain, mae PACT yn parhau drwy helpu prosiectau sy’n galluogi datblygiad cymunedol cadarnhaol a chynaliadwy. Nid ydy’r help cymunedol erioed wedi bod yn bwysicach na rŵan.”
Mae PACT yn cynnig ystod o grantiau hyd at £2,000 i brosiectau cymunedol. Am fwy o fanylion a sut i ymgeisio, ewch ar https://www.pactnorthwales.co.uk/applications-ceisiadau/

