Pwy rydym yn ei gynorthwyo

Mae PACT yn annog cymunedau lleol i weithio gyda’r Timau Plismona Cymdogaethau er mwyn datblygu cynlluniau sy’n ymdrin â phryderon lleol, ac mae’n Hymddiriedolwyr wedi ymrwymo i gynnig cymorth ariannol i’r rheini sy’n haeddu cymorth fwyaf.

Fel y rhan fwyaf o gyllidwyr eraill, rhaid i PACT reoli ei weithgarwch gwneud grantiau mewn modd priodol er mwyn sicrhau fod yr arian yn gallu gwneud cyfraniad gwirioneddol i ansawdd bywyd yng ngogledd Cymru.

Bydd y Prosiectau a welir yma yn rhoi syniad ichi o’r mentrau amrywiol rydym wedi buddsoddi ynddynt a pham mae cymunedau lleol yn teimlo eu bod yn bwysig.

Cyfiawnder mewn Diwrnod ydy ein rhaglen addysg ysgolion unigryw ac arobryn.