Adroddiad Effaith

Mae PACT Gogledd Cymru wedi bod yn cynorthwyo mentrau cymunedol am dros 20 mlynedd ledled ein rhanbarth. Fel elusen annibynnol mae’n gweithio law yn llaw gyda’i phrif arianwyr sef Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Yn 2020 gwnaethom gomisiynu Mike Corcoran, ymchwilydd gwadd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam i gynnal adolygiad ImPACT annibynnol o’n gwaith a defnyddio’r canfyddiad er mwyn ysbrydoli ac arwain ein datblygiad yn y dyfodol. Cyhoeddwyd yr adolygiad ym mis Ebrill 2021, a gallwch ddarllen y fersiwn lawn yma

Mae PACT Heddlu Gogledd Cymru yn edrych ymlaen at gynorthwyo llawer mwy o brosiectau a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol i drigolion a chymunedau Gogledd Cymru.