Yr hyn â wnawn
Er 1998 mae PACT wedi cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau, gan fuddsoddi dros £1,700,000 mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru. Gallwch gael gwybod mwy am rai o’r prosiectau hyn yma.
Ein hamcanion yw buddsoddi mewn prosiectau sydd yn:
- Hyrwyddo gwell ansawdd bywyd drwy gynlluniau atal troseddu sy’n gostwng lefelau troseddu ac ofn pobl o wynebu troseddu ac yn gwarchod pobl ac eiddo rhag gweithgarwch troseddol.
- Hyrwyddo addysg am gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol er mwyn gostwng lefelau troseddu.
- Hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd fel rhan annatod o fywyd drwy hyfforddiant, addysg a phrosiectau arbennig.
- Datblygu rhaglenni addysgol er lles pobl ifanc ac eraill.
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi ymrwymo i gefnogi’r amcanion hyn. Mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn natblygiad parhaus PACT, i sicrhau fod yr Ymddiriedolaeth yn cefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael â materion sy’n bwysig i gymunedau lleol.
Gan weithio’n agos gydag Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, mae PACT yn rheoli PCC ar ran yr Awdurdod i sicrhau fod yr arian sy’n cael ei godi drwy’r Gronfa hon yn cael ei ddosbarthu i grwpiau cymunedol yn chwe sir gogledd Cymru.
