Sut Allwch Chi Fod o Gymorth
Fel busnes
Mae nawdd corfforaethol yn allweddol i’n heffeithiolrwydd. Gyda’ch cymorth chi gallwn sicrhau fod cymorth ar gael o hyd i brosiectau lleol sy’n creu cymunedau mwy diogel, iachach a hapusach i bawb.
Mae deddfau seneddol diweddar wedi rhoi pwyslais mawr ar weithio mewn partneriaeth rhwng y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol er mwyn sicrhau gwelliannau cyson yn ein cymunedau cymdeithasol a busnes – rhywbeth y mae pawb ohonom, fel dinasyddion cyfrifol, yn dymuno ei weld.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned fel ymateb uniongyrchol i’r gofynion hyn ac mae’n gwneud cyfraniad sylweddol tuag at well diogelwch cymunedol yng ngogledd Cymru.
Ni fyddai llawer o’r gwaith da wedi bod yn bosib heb ein cefnogwyr corfforaethol.
Mae cefnogi’r Ymddiriedolaeth yn help ichi gyflawni amcanion CCC (Cyfrifoldebau Cymdeithasol Corfforaethol) busnes, ond mae hefyd o fudd o ran denu a chadw gweithwyr.
Gallwn ninnau, yn ein tro, gynnig nifer o fuddion i chi.
- Cyfleoedd i gwrdd â ffigyrau allweddol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat
- Digwyddiad rhwydweithio blynyddol gyda chefnogwyr allweddol eraill
- Gwahoddiad i’n holl ddigwyddiadau i Ymddiriedolwyr yn unig, yn cynnwys cyflwyno sieciau a digwyddiadau lansio
- Cydnabyddiaeth gyson yn ein cylchlythyr
- Cydnabyddiaeth ar ein gwefan
- Cylchlythyr chwarterol i chi a’ch gweithlu (y mae modd ei ymgorffori yn eich cylchlythyr mewnol chi)
- Tystysgrif i’ch gweithle
Fel unigolyn
Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar iawn i’r aelodau sy’n ein cynorthwyo ni. Os hoffech roi rhodd i Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned, cysylltwch â swyddfa PACT i drafod a threfnu anfon rhodd drwy siec.
Fel gwirfoddolwr
O fentora pobl ifanc i weithio gyda rhai o’n partneriaid ar brosiect neu gynnal digwyddiad, mae gwirfoddolwyr yn rhan hollbwysig o’r holl brosiectau rydym yn eu cynorthwyo. Y gwirfoddolwyr yw’r bobl sy’n gwneud gwahaniaeth.
A allech chi ein cynorthwyo ni drefnu digwyddiad codi arian? Neu gynorthwyo i gylchredeg ein cylchlythyr efallai? Neu ddiweddaru ein gwefan?
Beth bynnag yw’ch dawn, rydym yn croesawu eich cymorth.
Os hoffech wirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned neu gydag un o’n prosiectau, cysylltwch â ni.
Rhodd Cymorth
Mae Rhodd Cymorth yn gynllun syml sy’n caniatáu holl roddion unigryw gan dalwyr treth y DU, fawr neu fach, i gymhwyso am ryddhad treth incwm. Cysylltwch â swyddfa PACT am ffurflen a gallwn hawlio 22c ychwanegol gan y Trysorlys am bob £1 rydych yn ei roi.
Y newyddion da pellach, o safbwynt y rhoddwr, ydy os ydynt yn drethdalwr cyfradd uwch (40%) yna bydd unrhyw rodd elusennol yn gostwng eu bil treth hefyd.
