Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned
Hysbysiad preifatrwydd y cwsmer
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl i ni ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol.
- Manylion cyswllt
- Pa wybodaeth dan ni’n ei chasglu, ei defnyddio, a pham
- Seiliau cyfreithlon a hawliau diogelu data
- O ble dan ni’n cael gwybodaeth bersonol
- Pa mor hir dan ni’n cadw gwybodaeth
- Efo pwy dan ni’n rhannu gwybodaeth
- Sut i gwyno
Manylion cyswllt
Cyfeiriad
d/o Heddlu Gogledd Cymru, Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0HQ
Ffôn
07557 849990
E-bost
Pa wybodaeth dan ni’n ei chasglu, ei defnyddio, a pham
Rydym yn casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth ganlynol i gynnig gwasanaethau a nwyddau, gan gynnwys cyflenwi ac atgyfeiriadau trydydd parti:
- Enwau a manylion cyswllt
- Cyfeiriadau
- Ffotograffau neu recordiadau fideo
- Gwybodaeth am ofynion cymorth
- Gwybodaeth am incwm ac anghenion ariannol am gyllid neu gymorth cyllideb bersonol
- Manylion talu (gan gynnwys gwybodaeth cerdyn neu fanc ar gyfer trosglwyddiadau a debydau uniongyrchol)
- Gwybodaeth am ddefnyddwyr y wefan (gan gynnwys teithiau defnyddwyr ac olrhain cwcis)
- Gwybodaeth sy’n ymwneud â chanmoliaeth neu gwynion
Rydym yn casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth ganlynol i dderbyn rhoddion neu gyllid a threfnu gweithgareddau codi arian:
- Enwau a manylion cyswllt
- Cyfeiriadau
- Manylion talu neu fancio
- Hanes rhoddion
- Gwybodaeth am drethdalwr (at ddibenion Cymorth Rhoddion)
Rydym yn casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth bersonol ganlynol ar gyfer diweddariadau gwasanaethau neu ddibenion marchnata:
- Enwau a manylion cyswllt
- Cyfeiriadau
- Dewisiadau marchnata
- Delweddau wedi’u recordio, fel lluniau neu fideos
- Hanes rhoddion
- Cyfeiriadau IP
- Gwybodaeth am daith defnyddiwr gwefan ac ap
- Cofnodion o ganiatâd, lle bo’n briodol
Rydym yn casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth bersonol ganlynol ar gyfer dibenion ymchwil neu archifo:
- Enwau a manylion cyswllt
- Cyfeiriadau
- Delweddau wedi’u recordio, fel lluniau neu fideos
- Hanes rhoddion
- Cofnodion o ganiatâd, lle bo’n briodol
Rydym yn casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth bersonol ganlynol i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol:
- Enw
- Gwybodaeth cyswllt
- Dogfennau adnabod
- Gwybodaeth am drafodion ariannol
- Diogelu gwybodaeth
- Data troseddau troseddol
Seiliau cyfreithlon a hawliau diogelu data
O dan gyfraith diogelu data y DU, mae’n rhaid i ni gael “sail gyfreithlon” ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae yna restr o seiliau cyfreithlon posib yn y GDPR yn y DU. Gallwch ddarganfod mwy am seiliau cyfreithlon ar wefan yr ICO.
Gall pa sail gyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni effeithio ar eich hawliau diogelu data a nodir yn gryno isod. Gallwch ddarganfod mwy am eich hawliau diogelu data a’r eithriadau a allai fod yn berthnasol ar wefan yr ICO:
- Eich hawl i fynediad – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol. Gallwch ofyn am wybodaeth arall fel manylion am ble dan ni’n cael gwybodaeth bersonol a phwy dan ni’n rhannu gwybodaeth bersonol gyda nhw. Mae yna rai eithriadau sy’n golygu efallai na fyddwch yn derbyn yr holl wybodaeth dach chi’n gofyn amdano. Darllenwch fwy am yr hawl i fynediad.
- Eich hawl i gywiro– Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol dach chi’n meddwl sy’n anghywir neu’n anghyflawn. Darllenwch fwy am yr hawl i gywiro.
- Eich hawl i ddileu– Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol. Darllenwch fwy am yr hawl i ddileu.
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu– Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar sut y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol. Darllenwch fwy am yr hawl i gyfyngu ar brosesu.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu– Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol. Darllenwch fwy am yr hawl i wrthwynebu prosesu.
- Eich hawl i symud data– Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roddwyd gennym i ni i sefydliad arall, neu i chi. Darllenwch fwy am yr hawl i symud data.
- Eich hawl i dynnu caniatâd yn ôl– Pan fyddwn yn defnyddio cydsyniad fel ein sail gyfreithlon, mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Darllenwch fwy am yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl.
Os byddwch yn gwneud cais, rhaid i ni ymateb i chi heb oedi yn ormodol ac mewn unrhyw achos o fewn mis.
I wneud cais am hawliau diogelu data, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ben yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu a defnyddio’ch data
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau a nwyddau, gan gynnwys cyflenwi ac atgyfeiriadau trydydd parti:
- Buddiannau cyfreithlon – rydym yn casglu neu’n defnyddio’ch gwybodaeth oherwydd ei fod o fudd i chi, ein sefydliad neu rywun arall, heb achosi risg ddiangen o niwed i unrhyw un. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio’r hawl i’w symud. Ein buddiannau cyfreithlon:
- Cefnogi ein hamcanion creu grantiau a sicrhau bod ymgeiswyr personol yn gweithredu ar ran grŵp cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o fuddiannau cyfreithlon fel sail gyfreithlon, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir uchod.
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol i dderbyn rhoddion neu gyllid a threfnu gweithgareddau codi arian:
- Buddiannau cyfreithlon – rydym yn casglu neu’n defnyddio’ch gwybodaeth oherwydd ei fod o fudd i chi, ein sefydliad neu rywun arall, heb achosi risg ddiangen o niwed i unrhyw un. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio’r hawl i symud data. Ein buddiannau cyfreithlon:
- Sicrhau bod rhoddion yn cael eu derbyn o ffynonellau cyfreithlon.
I gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o fuddiannau cyfreithlon fel sail gyfreithlon, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir uchod.
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol ar gyfer diweddariadau gwasanaeth neu ddibenion marchnata:
- Buddiannau cyfreithlon – rydym yn casglu neu’n defnyddio’ch gwybodaeth oherwydd ei fod o fudd i chi, ein sefydliad neu rywun arall, heb achosi risg ddiangen o niwed i unrhyw un. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio’r hawl i symud data. Ein buddiannau cyfreithlon:
- sicrhau ein bod yn marchnata i unigolion priodol a grwpiau cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o fuddiannau cyfreithlon fel sail gyfreithlon, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir uchod.
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion ymchwil neu archifo:
- Buddiannau cyfreithlon – rydym yn casglu neu’n defnyddio’ch gwybodaeth oherwydd ei fod o fudd i chi, ein sefydliad neu rywun arall, heb achosi risg ddiangen o niwed i unrhyw un. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio’r hawl i symud. Ein buddiannau cyfreithlon:
- Er budd a datblygiad yr Ymddiriedolaeth yn y dyfodol
I gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o fuddiannau cyfreithlon fel sail gyfreithlon, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir uchod.
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol:
- Buddiannau cyfreithlon – rydym yn casglu neu’n defnyddio’ch gwybodaeth oherwydd ei fod o fudd i chi, ein sefydliad neu rywun arall, heb achosi risg ddiangen o niwed i unrhyw un. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio’r hawl i symud data. Ein buddiannau cyfreithlon:
- er budd ymgeiswyr a darpar ymgeiswyr am grantiau.
I gael rhagor o wybodaeth am ein defnydd o fuddiannau cyfreithlon fel sail gyfreithlon, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a nodir uchod.
O ble dan ni’n cael gwybodaeth bersonol
- Yn uniongyrchol oddi wrthych chi
- Elusennau neu sefydliadau’r sector gwirfoddol
- Ysgolion, colegau, prifysgolion neu sefydliadau addysg eraill
Pa mor hir dan ni’n cadw gwybodaeth
Dan ni’n cadw gwybodaeth am gyfnod o saith mlynedd naill ai ar ffurf e-bost neu bapur yn dibynnu ar sut mae ein cwsmeriaid wedi gohebu â ni.
I gael rhagor o wybodaeth am ba mor hir dan ni’n storio eich gwybodaeth bersonol neu’r meini prawf dan ni’n eu defnyddio i benderfynu ar hyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir uchod.
Gyda phwy dan ni’n rhannu’r wybodaeth
Rhai eraill dan ni’n rhannu gwybodaeth bersonol â nhw
- Elusennau a mudiadau gwirfoddol
- Awdurdodau rheoleiddio perthnasol
- Archwilwyr neu arolygwyr allanol
Sut i gwyno
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’n defnydd o’ch data personol, gallwch wneud cwyn i ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar dudalen gyntaf yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Os ydych chi’n parhau i fod yn anhapus â sut rydym wedi defnyddio’ch data ar ôl codi cwyn gyda ni, gallwch hefyd gwyno i’r ICO.
Cyfeiriad yr ICO:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan: https://www.ico.org.uk/make-a-complaint
Diweddarwyd ddiwethaf
18 Mehefin 2025
