​Mae ein partneriaid yn Theatr Clwyd, o dan arweiniad Emyr John y Cyswllt Ymgysylltiad Creadigol, wedi datblygu rhaglen addysg arobryn sy’n defnyddio actorion proffesiynol i edrych ar faterion allweddol am y system cyfiawnder troseddol mewn drama drawiadol a realistig.

 

 

Mae’n weithdy addysgiadol dynamig a thrawsnewidiol sy’n anelu

  • Atal pobl ifanc rhag troseddu
  • Codi ymwybyddiaeth am y system cyfiawnder troseddol
  • Deall canlyniadau gweithgarwch troseddol/gwrthgymdeithasol
  • Edrych ar effaith ymddygiad o’r fath ar y troseddwr, dioddefwr a’r gymuned ehangach
  • Deall goblygiadau tymor hir ymddygiad troseddol arnynt eu hunain a gweddill cymdeithas
  • Annog cysylltiadau iach a dinasyddiaeth dda

Nodwedd allweddol o’r rhaglen ydy ei gallu i ymateb bob blwyddyn i bynciau presennol sy’n peri pryder o ran athrawon a swyddogion heddlu ysgolion. Ers 2010 mae Cyfiawnder mewn Diwrnod wedi cwmpasu materion fel bwlio cyfryngau cymdeithasol, trais ieuenctid a chamddefnyddio steroidau. Yn fwy diweddar, mae wedi canolbwyntio ar ymddangosiad cynyddol Llinellau Cyffuriau a’i themâu cysylltiedig gan gynnwys camfanteisio ar blant, troseddau cyllyll a phobl ifanc bregus.

CaseStudies JIAD Booklet W