Unwaith eto, rydym wrth ein bodd yn gwahodd sefydliadau cymunedol i gyflwyno eu ceisiadau i’n cronfa gymunedol flynyddol sef ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’. Dros y 13 mlynedd ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi dros £600,000 ledled gogledd Cymru sydd wedi arwain at prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymunedau.
Eleni rydym eto’n gwneud £60,000 ar gael i gynorthwyo prosiectau ledled Gogledd Cymru sy’n anelu i gadw’n cymunedau’n ddiogel a chynorthwyo ein Cynllun Heddlu a Throsedd.
Mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn fenter ar y cyd sydd wedi bod yn bosibl gyda nawdd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Ceir hefyd arian a oedd ar gael drwy asedau a atafaelwyd gan droseddwyr o dan y Ddeddf Enillion Trosedd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac ymrwymiad y swyddogion a staff Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio’n ddiflino i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Yn benodol, rydym eisiau gweld cynigion sy’n cynorthwyo i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau a chynorthwyo gwaith ein Timau Plismona Cymdogaethau. Mae RHAID i ymgeiswyr drafod eu syniadau gyda’u timau plismona lleol cyn cyflwyno cais.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar gynorthwyo prosiectau sy’n cynorthwyo datblygu cymunedau cydnerth ac nid yw eleni’n wahanol. Rydym yn credu, drwy weithio gyda’n gilydd, y gallwn wneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel yn y DU i fyw, gweithio a chwarae ynddo. Mae gan sefydliadau cymunedol fel eich un chi rôl hanfodol i’w chwarae wrth wireddu hyn drwy gynorthwyo’r blaenoriaethau yn ein Cynllun Heddlu a Throsedd. Rydym yn annog sefydliadau cymunedol i ymgeisio am nawdd ar gyfer prosiectau a fydd yn cael effaith gadarnhaol – yn enwedig y rhai hynny sydd â gweledigaeth tymor hir sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein hardal a chydweithio gyda phobl eraill er mwyn atal problemau rhag digwydd.
Wrth ddatblygu eich cynnig, ystyriwch sut fydd yn cynorthwyo blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throsedd presennol:
- Presenoldeb plismona cymdogaeth lleol
- Cefnogi dioddefwyr, cymunedau a busnesau
- System cyfiawnder troseddol deg ac effeithiol
Gwnaiff y cyhoedd unwaith eto benderfynu pa gynigion sy’n llwyddiannus. Felly byddwch angen sicrhau fod eich rhwydwaith o gefnogwyr yn pleidleisio i chi drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru pan mae’r cyfnod pleidleisio’n agor.
Diolch yn fawr hefyd i’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT) sydd, unwaith eto, yn gweinyddu’r gronfa ar ein rhan.

