Her Ymgyrch Bang 2025

Gyda Chalan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn agosáu, mae Heddlu Gogledd Cymru a PACT unwaith eto’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod eich dathliadau’n ddiogel a phleserus i bawb.Mae’r amser hwn o’r flwyddyn yn brysur yn draddodiadol i’r holl wasanaethau brys ledled Cymru, gyda lleiafrif bach o bobl yn defnyddio Noson Calan Gaeaf a Thân Gwyllt i gyflawni Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan roi eu hunain a phobl eraill mewn perygl o anaf.Gall Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fod yn gyfnod gofidus a brawychus i aelodau bregus a hyn ein cymuned. Felly ystyriwch bobl eraill wrth ddathlu.

Rydym yn annog grwpiau ieuenctid ledled Gogledd Cymru i gymryd rhan yn Her Ymgyrch Bang. Mae hon yn ‚ordd wych i grwpiau / clybiau / ysgolion gynorthwyo yn eu cymuned, codi ymwybyddiaeth am broblemau lleol neu genedlaethol, addysgu pobl eraill ynghylch peryglon gweithgareddau penodol neu wneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol.

Cofrestrwch eich grwp nawr!

Op Bang Challenge Registration Form Cymraeg

Op Bang Challenge Guidebook Cymraeg

Op Bang Challenge Advert Cymraeg

Cystadleuaeth i redeg rhwng 13 Hydref – 10 Tachwedd.