Yr Wyddfa, mwy na mynd am dro!

Mae busnesau Llanberis yn dweud “#Mentra’nGall” wrth bobl, ac yn argymell bod pobl yn cynllunio eu diwrnod ar fynydd prysuraf y DU yn ofalus.

Fel mae’r Hydref yn nesáu, mae busnesau Llanberis yn defnyddio’r strategaeth Mentra’n Gall ar gyfer diogelwch yn yr awyr agored,  yn gofyn  i bobl wneud cynlluniau gofalus cyn cerdded Yr Wyddfa. Yn ystod haf 2024, mae nifer o fusnesau Llanberis a’r cyffiniau wedi bod yn gweithio efo menter gymdeithasol lleol, Eryri  Bywiol, er mwyn datblygu’r ffeithiau pennaf ddylai pawb wybod pan yn cynllunio cerdded y mynydd uchaf yng Nghymru. Er enghraifft, er mai llwybr Llanberis ydy’r ffordd a’i hadnabyddir fel yr hawsaf o’r chwech i frig Yr Wyddfa, dydy o DDIM yn daith cerdded rhwydd,  mae’n 7 awr o gerdded llafurus i fyny ac i lawr!

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae’r nifer o alwadau i Dîm Achub Mynydd Llanberis wedi cynyddu’n raddol, yn cyrraedd brig o dros 300 yn 2023. Mae llawer o ddigwyddiadau gellid eu hosgoi yn digwydd ar Yr Wyddfa, sy’n gweld mwy na 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Nid yn unig  bod nifer y digwyddiadau wedi cynyddu, ond maen nhw’n cael eu galw allan yn fwy rheolaidd bob blwyddyn, yn aml efo nifer o alwadau mewn un diwrnod. Mae hyn yn rhoi straen corfforol a meddyliol dwys ar aelodau gwirfoddol y tîm.

Mae llawer o’r bobl sy’n dringo’r Wyddfa bob blwyddyn yn pasio drwy Lanberis, yn aros yn y gwestai, yn ymweld â’r manwerthwyr , ac yn bwyta yn y bwytai a’r caffis. Mae pob un o’r ymgysylltiadau hyn yn rhoi cyfle i rannu cyngor diogelwch eglur a chyson. Mae’r brosiect hwn, wedi’i fuddsoddi gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn bwriadu dylanwadu ar bobl ar yr adeg perffaith tra’n cynllunio eu hantur. Tra’n treulio amser yn Llanberis, mi fydden nhw’n adlewyrchu ac yn meddwl am eu darpar weithgaredd. Mi fydd ganddyn nhw’r cyfle i ystyried y tywydd ac os ydy’r llwybr dewisol yn addas ar gyfer eu ffitrwydd a’u sgiliau, ac yn gallu prynu offer ychwanegol os oes angen. Fel Pencampwyr Mentra’n Gall, mi fydd y busnesau yn arddangos byrddau gwybodaeth wedi’u dylunio’n arbennig, efo dolen i YrWyddfaFyw, sef gwybodaeth ynglŷn â’r tywydd ar frig Yr Wyddfa.

Maen nhw hefyd yn darparu cardiau gwybodaeth, wedi’u dylunio er mwyn ffitio i waled neu bwrs. Mae’r rhain yn cynghori pobl sut i ddilyn sut maen nhw’n mynd yn eu blaen, i wybod lle maen nhw ac i sicrhau eu bod yn cadw  at y trywydd iawn. Mae Gwesty’r Royal Victoria, Gwesty Bach Erw Fair, Morris Leisure Touring Park, Gallt y Glyn a Hostel Lodge Dinorwig i gyd wedi gweithio i helpu datblygu’r negeseuon a’r byrddau gwybodaeth A4, sydd ar gael rŵan ar gyfer busnesau eraill yr ardal.  Maen nhw wedi’u printio ar Foamex ,sy’n eu diogelu rhag y tywydd.

Dywedodd Sonja Rothwell, o’r Hostel Lodge Dinorwig: “Yn Lodge Dinorwig, ‘da ni eisiau i’n holl westeion fwynhau eu hamser yn y mynyddoedd yn ddiogel. Mae pobl yn aml yn gofyn  i ni am ddringo’r Wyddfa, ac mae’n  ddefnyddiol iawn cael adnoddau fel y rhain i’w  cynorthwyo. Mae gwybodaeth da yn galluogi ein gwesteion i wneud penderfyniadau call, cadw’n saff, a chael profiad ardderchog ar y llwybrau.”

Dywedodd Elin Aaron o Gallt y Glyn, Llanberis: “Dydy o byth yn fy synnu i cyn lleied o wybodaeth sydd gan rhai o’n gwesteion am yr her o wynebu’r Wyddfa. ‘Da ni bob amser yn ceisio eu hatgoffa nad ydy o’n daith gerdded hawdd, tra hefyd yn ceisio peidio  â’u hatal rhag wynebu’r her yn gyfan gwbl. Mae’n wych bod fy nhîm i gyd yn gwybod fod Mentra’n Gall yn adnodd ddibynadwy er mwyn cyfeirio ein gwesteion at unrhyw wybodaeth.”

Mae Eryri  Bywiol yn galw ar gymaint o fusnesau â phosib i fod yn Bencampwyr Mentra’n Gall. Dylai busnesau â diddordeb gysylltu efo: emma@snowdonia-active.com