Mi ddaeth cricedwyr ifanc at ei gilydd i frwydro yn rownd derfynol Tarian Heddlu Gogledd Cymru, digwyddiad sydd wedi ei sodro yng nghalendr cricedwyr ifanc.
Mi gafodd y gystadleuaeth flynyddol, sydd rŵan yn ei 21ain blwyddyn, ei chynorthwyo gan fuddsoddiad oddi wrth Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) unwaith eto. Mi gafodd diwrnod y rowndiau terfynol, sy’n cael ei redeg ar y cyd efo Bwrdd Criced Cymru, ei gynnal yng Nghlwb Criced Mochdre, ac oherwydd glaw di-baid, mi gafodd ei ohirio am wythnos tan ddydd Sul 15 Medi.
Yn anffodus, ‘roedd tywydd ddechrau’r bore yn dal i fod yn ansefydlog, ac mi benderfynwyd rhannu’r cwpan o dan 11 rhwng Clwb Criced y Drenewydd a Chlwb Criced yr Wyddgrug.
‘Roedd rownd derfynol y rhai o dan 13 rhwng Clwb Criced Llaneurgain a Chlwb Criced Porthaethwy. Llaneurgain alwodd yn gywir, a dewis batio yn gyntaf. Mi ddechreuodd F. Skeffington yn dda, gan sgorio 23 rhediad; ac mi wnaeth S. Davies (17) a D. Davies (12) hefyd gyfrannu, i helpu Llaneurgain gael sgôr barchus o 101 o’u 20 pelawd. G. Hodgkinson oedd y bowliwr i’w wylio o blith tîm Porthaethwy, gan gymryd 2 wiced o’i 2 belawd.
Aeth Porthaethwy i’r afael i ddal fyny, efo H. Williams ac O. Jones yn rhoi cychwyn dda arni. Gadawodd y ddau y cae ar 30 rhediad. Mi gawson nhw help gan L. Midgley, aeth ymlaen i sicrhau eu buddugoliaeth. Mae’r ddau dîm i’w cymeradwyo am eu hagwedd ragorol a’r ysbryd y chwaraewyd y gêm.
Photo caption – Pencampwyr o dan 13 – Porthaethwy
‘Roedd rownd derfynol y rhai o dan 15 rhwng Clwb Criced Bae Colwyn a Chlwb Criced yr Wyddgrug. Efo’r glaw yn nesáu, yr Wyddgrug alwodd yn gywir, a dewis batio. ‘Roedd ffrwydrad o’r drefn ganol gan G. Godwin, H. Roberts, L. Boulton a G. Edwards, i gyd yn gadael y cae ar 30 rhediad, ac fe wnaeth yr Wyddgrug gyrraedd 185 sylweddol o’u 20 pelawd.
Wedi troi’n gyflym, ‘roedd Bae Colwyn o dan bwysau drwy golli wiced yn gynnar, a chyrraedd 15 rhediad o 4 pelawd…ac yno mi ddechreuodd fwrw glaw…a bwrw glaw…yn ddi-baid.
Mi geisiodd hyfforddwyr y ddau dîm drefnu dyddiad a lleoliad addas er mwyn ail-chwarae’r gêm, ond mi ddangosodd capten Bae Colwyn, Finn Hughes, ysbryd criced drwy ddatgan eu batiad, a rhoi’r fuddugoliaeth i’r Wyddgrug. ‘Roedd y penderfyniad yn un o aeddfedrwydd a pharch, ac yn esiampl ardderchog o ysbryd criced ieuenctid. Da iawn, Finn.
Photo caption – Pencampwyr o dan 15 – Clwb Criced yr Wyddgrug
Diolch yn fawr i Huw Kelly ac Andy Goodwin, ein dyfarnwyr ar y diwrnod. ‘Roedd eu cefnogaeth a’r ffordd wnaethon nhw reoli’r gêm yn rhagorol.
Hoffwn hefyd ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru, ac yn enwedig Dave Evans o PACT, am eu cefnogaeth ac ymroddiad parhaol i Gynghrair Criced Ieuenctid Gogledd Cymru. ‘Da ni’n fythol ddiolchgar am y nawdd a’r help ‘rydych chi wedi’i roi dros nifer o flynyddoedd.
Yn olaf, mi hoffem ni ddiolch i’r Rhingyll Neal Parkes am ei ymroddiad i gynrychioli Heddlu Gogledd Cymru ym mhob Diwrnod Rowndiau Terfynol, dros nifer o flynyddoedd. Nid yn unig ydy Neal yn esiampl ardderchog dros Heddlu Gogledd Cymru, ond mae hefyd wedi treulio oriau di-ddiwedd dros nifer o flynyddoedd, ac ni fyddem ni wedi gwneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus hebddo. Bydd hiraeth ar ôl Neal y flwyddyn nesaf, ac mi hoffem ddymuno ymddeoliad hapus iddo fo.
