Mae bachgen yn ei arddegau, oedd wedi ei feithrin yn amhriodol gan gang llinellau cyffuriau bygythiol er mwyn cyflenwi cyffuriau, wedi ei ddedfrydu i 18 mis yn y ddalfa ieuenctid.
Mi glywodd yr Ynadon bod y bachgen 16 oed, o’r enw Connor, wedi ei orfodi i werthu cyffuriau ar ôl dechrau cymryd cyffuriau ei hun a syrthio i ddyled.
Mi gafodd ei ddal pan gafodd ei weld yn pasio cyffuriau i unigolyn arall mewn parti, ac mi gafodd ei arestio. Mi ganfyddodd swyddogion yr heddlu bod Cetamin, cyffur Dosbarth B a reolir yn ei feddiant. Mi gafodd ei gyhuddo o fod â chyffuriau yn ei feddiant efo’r bwriad o gyflenwi.
Mi blediodd yn euog i’r cyhuddiad pan ymddangosodd gerbron y llys. Mi gyfaddefodd hefyd ei fod â gwrthrych â llafn yn ei feddiant, ynghyd â chyllell, a chafodd ei gyhuddo hefyd o ymddygiad bygythiol.
‘Roedd golygfeydd emosiynol yn Llys yr Ynadon, Llandudno, fel cafodd Connor ei dywys i ffwrdd i ddechrau ei ddedfryd mewn Sefydliad i Droseddwyr Ifanc.
Er bod hyn i gyd wedi’i seilio ar ddigwyddiadau gwirioneddol, mi ‘roedd hwn yn weithdy drama wedi’i drefnu fel rhan o’r brosiect arloesol, Cyfiawnder Mewn Diwrnod, a “Connor” oedd yr actor, Joseph Asher.
Wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT), nod y prosiect ydy rhoi blas ar sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio ar gyfer pobl ifanc, ac i weld yr effaith ddinistriol mae troseddau yn gallu cael ar deuluoedd a’r gymuned.
Mi gafodd y gweithdy undydd, wedi’i greu gan actorion ac unigolion creadigol o Theatr Clwyd, yr Wyddgrug, ei fynychu gan 36 o ddisgyblion blynyddoedd 8 a 9 o Ysgol John Bright, Llandudno, fel rhan o’u hastudiaethau Addysg Bersonol, Cymdeithasol ac Iechyd.
Yn ôl cadeirydd PACT, Ashley Rogers, mae’r cynllun Cyfiawnder Mewn Diwrnod wedi bodoli ers 15 mlynedd, ac yn ystod yr amser hwnnw mae tua 9,000 o bobl ifanc wedi cael mewnwelediad gwirioneddol i sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio. Dywedodd: “Mae hyn wir yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael ymwybyddiaeth o sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio, ac, yn bwysig iawn, er mwyn deall canlyniadau ymddygiad troseddol ar y troseddwr, y dioddefwr, a’r gymuned gyflawn.
“Mae’r diwrnod yn eithriadol o bwerus, a ‘da ni’n gobeithio’i fod yn annog dinasyddiaeth dda ar adeg hanfodol yn natblygiad pobl ifanc.”
Dywedodd Mr Rogers ei bod yr un mor bwysig bod Cyfiawnder Mewn Diwrnod yn cyd-fynd efo’r cyd-destun a’r cefndir o astudiaethau achos yn y rhaglen, sy’n helpu egluro pam bod ymddygiad troseddol yn gallu digwydd.
“Mae gweld safbwynt y dioddefwyr a’r troseddwyr wir yn eich helpu i ddeall pam bod trosedd wedi digwydd ac effeithiau’r ymddygiad hwnnw. ‘Da ni’n ceisio rhoi safbwynt amlochrog ac yn gobeithio bod hyn yn golygu gwell dealltwriaeth i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.”
Dywedodd Bethan Haf Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Theatr Clwyd, bod y cwrs Cyfiawnder Mewn Diwrnod yn seiliedig ar achosion gwirioneddol o lysoedd ar draws Gogledd Cymru. Dywedodd: “Mae’r actorion yn adrodd yr hanes ac yna mae’r disgyblion yn trafod beth mae’n nhw’n feddwl dylai’r ddedfryd fod, ond mae gennym ni Ynad go iawn i gyhoeddi beth oedd y ddedfryd, ac er mwyn egluro pam wnaeth y llys y penderfyniad hwnnw.
“Mae hyn ynglŷn â siarad efo pobl ifanc mewn ffordd maen nhw’n ei ddeall, a gobeithio’i fod yn helpu i egluro beth allai ddigwydd os byddant yn troseddu.”
Dywedodd Hannah McLaughlin, 13 oed, ei bod yn sylweddoli bod trosedd a chyfiawnder yn cael ei bortreadu ar y teledu yn wahanol iawn i beth sy’n digwydd mewn gwirionedd. Dywedodd: “’Da ni angen addysgu pobl ifanc nad ydy cyffuriau yn gwneud daioni i unrhyw un, a bod llawer o bobl yn teimlo effaith gweithrediadau un unigolyn.”
Dywedodd Connor Smith, 12 oed: “’Doeddwn i ddim yn gwybod bod y llys yn ystyried cefndir y troseddwr ac mai’r prif ddiben ydy trio helpu’r troseddwr. Mi deimlais i rywfaint o gydymdeimlad tuag at y troseddwr, oherwydd gyda chefnogaeth, buasai’n gallu cael dyfodol da.”
Dywedodd ei ffrind, Leon Sullivan, 12 oed: “’Dwi wedi dysgu llawer ynglŷn â sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio, a’r gwahaniaeth rhwng y llysoedd ar gyfer oedolion a phobl ifanc.”
Dywedodd Eloise Blundell nad oedd hi erioed wedi bod mewn ystafell lys go iawn o’r blaen. “’Da ni wedi trafod cyffuriau a’u heffeithiau yn yr ysgol, ond mae heddiw wedi bod yn wahanol. ‘Dwi wedi dysgu llawer ynglŷn â sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a’r gwahaniaeth rhwng y llysoedd ar gyfer oedolion a phobl ifanc.”
Ymhlith y rhai yn bresennol yn ystod y dydd oedd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, Wayne Jones, sy’n gyn uwch dditectif. Dywedodd bod y senario gyflwynwyd yn enghraifft o’r bygythiad gan gangiau troseddol yn ymestyn eu gweithrediad troseddol trefnedig o’r canolfannau trefol i drefi a phentrefi bychain ledled y DU. Ychwanegodd: “Gwerth y diwrnod ydy bod pobl ifanc yn cael mewnwelediad i’r system cyfiawnder troseddol ac i weld cyfiawnder wrth ei waith. Ac os mae’n ailgyfeirio rhywun oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, yna mae’n beth da.”
Mae’r brosiect Cyfiawnder Mewn Diwrnod wedi derbyn £64,974 gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac mae’n cael cefnogaeth gan Cyngor Bwrdeistref S

