Sêr ifanc rygbi yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae arian a atafaelwyd gan droseddwyr yn cynorthwyo’r to nesaf o sêr rygbi ifanc yng Ngogledd Cymru.

Cynhaliwyd gwersylloedd hyfforddi yn ddiweddar gan Glwb Rygbi Caernarfon ar gyfer pobl ifanc ar draws yr ardal gyda chefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT).”

Mae dros 300 o chwaraewyr rhwng pump ac 16 oed wedi bod i’r sesiynau yn y clwb ar gae’r Morfa, yn gwella eu sgiliau rygbi ac yn mwynhau’r lluniaeth gan PACT.

Bu’r heddlu yno yn rheolaidd a chafodd y plant gyfle i ddringo i mewn i’r cerbydau, gwasgu’r goleuadau glas a’r seiren a gwisgo helmedau a hetiau’r heddlu.

Yn ystod yr wythnos daeth cyn-chwaraewr Cymru, y Llewod a’r Scarlets, Jonathan Davies i’w gweld.

Yn ôl SCCH Eurwen Williams, sy’n gweithio o Gaernarfon, a wnaeth helpu gwneud cais am nawdd PACT, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â phobl o oedran ysgol wedi cynyddu dros wyliau’r haf.

Dywedodd: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwarae rhan ragweithiol yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol er lles y gymuned gyfan.

“Mae Undeb Rygbi Cymru yn trefnu gwersyll haf yng Nghlwb Rygbi Caernarfon sy’n denu cannoedd o bobl ifanc dros gyfnod o bedwar diwrnod.

“Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i Heddlu Gogledd Cymru weithio gyda phlant a phobl ifanc ardal Caernarfon ac adeiladu ymddiriedaeth a hyder drwy feithrin perthynas well gyda nhw.”

Un o aelodau gwreiddiol Tîm Merched Caernarfon yw Eurwen, a hi wnaeth drefnu bod yr heddlu yn rhan o’r gwersyll haf.

Ychwanegodd: “Mae’n bwysig dechrau ymgysylltu â phlant yn ifanc iawn. Maen nhw yn fy ngweld i ar y stryd yn fy iwnifform ac yn dweud “mae hi’n chwarae rygbi hefyd” gan roi’r argraff bod yr heddlu yn bobl iawn.

“Mae wedi bod yn wythnos wych ac yn werth gweld y plant yn gwenu o glust i glust. Mae’r rhieni yn mwynhau gweld y plant yn hapus hefyd.”

⁠Roedd y sesiynau yn canolbwyntio ar gae pob tywydd y clwb a gafodd ei osod ddwy flynedd yn ôl fel rhan o’r fenter gan Undeb Rygbi Cymru i wella adnoddau chwaraeon yn yr ardal.

Ymysg y rhai a fu’n ymweld â’r plant yn hyfforddi oedd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman.

Dywedodd: “Mae hwn yn drefniant gwych gyda chae newydd, diogel. Gall rhieni fod yn sicr bod eu plant yn cael gofal ac yn rhan o rywbeth sy’n ymwneud â ffitrwydd, iechyd a gweithio mewn tîm.

“Mae ein partneriaeth yn bwysig oherwydd dyma ddechrau perthynas gyda phobl ifanc i feddwl am waith tîm ac i feddwl am fod yn rhan o’r gymuned.

“Mae’r penderfyniadau a’r dewisiadau y mae pobl ifanc yn gwneud nawr a’r grwpiau o ffrindiau maent yn gwneud wir yn cael effaith arnynt yn ddiweddarach mewn bywyd. Dyna phryd gwelwn ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda phobl yn cael eu cyflwyno i fepio, smocio, alcohol a chyffuriau felly mae gwneud y penderfyniadau iawn a cheisio dilyn esiamplau da yn y byd rygbi yn beth cadarnhaol i wneud” dywedodd.

Ers ei sefydlu yn 1998, mae PACT wedi cefnogi bron i 3,500 o brosiectau ar draws yr ardal, gyda llawer o’r nawdd yn dod o arian a atafaelwyd gan droseddwyr a’i ailgylchu er budd y cyhoedd.

Mae PACT yn gweithio’n agos hefo timau plismona cymdogaethau Heddlu Gogledd Cymru, yn enwedig y rhwydwaith o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH).

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Mae gweithgareddau corfforol, chwaraeon tîm a chymysgu gyda ffrindiau mewn lle diogel yn bwysig iawn i bobl ifanc.

“Mae cadw pobl ifanc yn brysur a rhoi rhywbeth cadarnhaol a gwerth chweil iddynt wneud yn werthfawr ac yn ystod gwyliau’r ysgol mae’n amlwg yn fwy pwysig nag erioed. Mae’r ymgysylltu rhwng tîm plismona’r gymdogaeth â’r bobl ifanc yn ffantastig.”

Dwedodd cyn hyfforddwr tîm cyntaf Clwb Rygbi Caernarfon, Ieuan Jones bod rhai o’r bobl ifanc ar y cwrs eisoes yn rhan o’r clwb ond doedd nifer ddim wedi chwarae rygbi o’r blaen.

Dywedodd: “Mae’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc o ardal Caernarfon ond mae rhai yn dod o bellach i ffwrdd. Daw rhai o Ynys Môn, Dinbych a Dolgellau hefyd. Mae rhai yn ffrindiau eisoes ond doedd llawer ddim yn nabod ei gilydd cyn dod yma ac mae’n dda cael cymysgu a dod i nabod pobl newydd.

“Mae’r pwyslais ar gael hwyl ac yn ychwanegol i’r rygbi maen nhw wedi bod yn chwarae tipyn o bêl-droed hefyd. Gobeithio y bydd y rhai nad ydynt wedi chwarae o’r blaen yn dod yn ôl yn yr hydref ac yn parhau i chwarae gyda’r clwb neu yn mynd i glybiau eraill.”

Daeth Gwilym Owen, sy’n saith oed a’i efaill, Twm o Lanbedrgoch ger Porthaethwy, Ynys Môn i gymryd rhan yn y gweithgaredd.

Wrth gymryd seibiant dywedodd: Dwi wedi bod yn chwarae rygbi am dipyn a dw i’n dod yma yn rheolaidd.   ⁠Dw i’n licio pasio’r bêl a thaclo.” 

Dywedodd plentyn arall, Ceian Childs, wyth oed o’r Felinheli: ⁠”Dw i’n licio chwarae rygbi. Mae’r taclo a’r pasio yn dda, ond mae sgorio’n well byth.”

Un o’r tîm ieuenctid yw Ynyr Thomas sydd wedi cael ei ddewis gan y clwb i helpu gyda’r sesiynau.

Mae’r llanc 17 oed o Gaernarfon wedi bod yn hyfforddi’r chwaraewyr iau am flwyddyn.

“Mae’n wych gweld y bobl ifanc yn datblygu eu sgiliau ac yn gwella fesul wythnos. Mae’n rhywbeth dw i wir yn mwynhau” dywedodd.