9 Awst 2024. SYLWCH – OHERWYDD AMGYLCHIADAU Y TU HWNT I’N RHEOLAETH MAE’R GÊM HON WEDI’I GOHIRIO. DYDDIAD DIWYGIEDIG I’W GADARNHAU.
Bydd sêr opera sebon a chyn-chwaraewyr yr Uwch Gynghrair yn codi arian er lles sefydliad gwrth-drosedd, mewn gem bêl-droed elusennol.
Mae’r gêm er lles Ymddiriedaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT), wedi ei drefnu gan dîm CPD Heddlu Wrecsam, sy’n ail dîm i gyd-berchnogion CPDA Wrecsam, Rob McElhenney a Ryan Reynolds.
Ymhlith y rhai sydd i’w disgwyl i chwarae yn erbyn y swyddogion, mae triawd o actorion o Emmerdale, sef James Hooton, sy’n chwarae rôl Sam Dingle, Jay Kotzle, sy’n chwarae rôl Billy Fletcher a Joe Warren Plant, sy’n chwarae rôl Jacob Gallagher.
Mi fyddan nhw’n chwarae i glwb Supporting Charities Football Club, sy’n cynnwys cefnogwyr pêl-droed, pobl enwog a chyn-chwaraewyr pêl-droed proffesiynol.
Mi fydd y gic gyntaf am 3pm, ar gae pêl-droed Airbus ym Mrychdyn, ar ddydd Sul, 11 Awst.
Mi fydd rhoddion gwirfoddol yn cael eu derbyn wrth y giât ar y diwrnod, ac mae dolen Local Giving wedi ei sefydlu:
PACT CHARITY FOOTBALL MATCH WITH WREXHAM POLICE FC | Localgiving
‘Roedd tîm CPD Heddlu Wrecsam yn syniad o ben a phastwn y Rhingyll Dave Smith, sy’n rheoli swyddogion plismona’r cymdogaethau yng Nglannau’r Dyfrdwy.
‘Roedd yn gweithio yn Wrecsam pan sefydlodd y tîm, fel ymateb i ostyngiad yn ymddiriedaeth y cyhoedd yn ystod y pandemig.
Dywedodd y Rhingyll Smith: “’Roedd rhywfaint o agwedd negyddol tuag at yr heddlu, felly ‘roeddwn eisiau ail-adeiladu cyswllt a chwalu rhwystrau.
“Mi ddechreuom drwy chwarae yn erbyn grwpiau a thimau cymunedol yn ardal Wrecsam, gan symud ymlaen i godi arian dros elusennau, cyfanswm o £44,000 dros y 18 mis diwethaf.
“’Da ni’n cael llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd, ac hefyd gan sêr fel Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
“Dros y 12 mis diwethaf, mae Ryan a Rob wedi rhoi rhywbeth fel £20,000 tuag at wahanol gemau yn codi arian dros ward y plant a’r adran oncoleg yn Ysbyty Wrecsam Maelor, a gêm i hogyn bach o’r enw Louie, sy’n dioddef o gyflwr genetig anghyffredin.
“’Da ni hefyd yn cael llawer o gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gan bobl fel Nick Knowles, seren DIY SOS, eicon Cymru, Neville Southall, a’r canwr Chesney Hawkes – a llawer mwy o fyd teledu a chwaraeon, ac oddi wrth bobl cyn belled i ffwrdd ag America a Chanada.
“Mae’n beth da i ddod â cydweithwyr at ei gilydd pan nad ydyn nhw ar ddyletswydd, o bob cwr o ardal yr heddlu, ac mae’n beth da i’n lles ni, hefyd.

P.A.C.T ; Sgt Dave Smith with Kelsey Reed ; project manager, Ashley Rogers; Chair and David Evans ; PACT Manager. Picture Mandy Jones
“Mae PACT yn achos sy’n agos i’n calonnau, oherwydd eu bod wedi gwneud llawer i’n cynorthwyo fel tîm, sydd wedi ein galluogi i wneud be’ ‘da ni’n ei wneud yn y gymuned.
“’Dwi’n gwybod bod PACT yn gwneud llawer o waith ardderchog ledled Gogledd Cymru, yn cynorthwyo prosiectau sy’n lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae eu gwaith nhw yn cydweddu efo’n gwaith ni yng nghymunedau Gogledd Cymru.
“’Da ni’n annog grwpiau cymunedol i wneud cais am gymorth gan PACT, oherwydd ‘da ni’n gweld y daioni gwirioneddol mae eu cefnogaeth yn ei greu.
“Mae’n cael effaith arwyddocaol ac yn helpu i wneud Gogledd Cymru yn le mwy diogel. Maen nhw’n wych.”
Yn ôl Cadeirydd PACT, Ashley Rogers, mae’r elusen rhanbarthol wedi cynorthwyo dros 3,500 o brosiectau ar draws cymunedau ym mhob un sir yng Ngogledd Cymru, ers ei sefydlu chwarter canrif yn ôl.
Dywedodd: “Mae CPD Heddlu Wrecsam yn dîm pêl-droed ysbrydoledig ac mae wedi cyflawni gwyrthiau ac mae’r cyfryngau cymdeithasol ar dân efo’r holl waith da maen nhw’n ei wneud.
“Mae’r ffaith eu bod yn ein cefnogi ac yn codi arian i PACT yn arbennig.
“Mae Dave a’i gydweithwyr yn gweld gwerth gwaith PACT drwy eu gwaith plismona’r cymdogaethau, yn helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae PACT yn buddsoddi neu’n cyd-fuddsoddi mewn 150 prosiect ar draws Gogledd Cymru bob blwyddyn, felly mi gaiff yr arian maen nhw’n ei godi ei wario’n dda, yn gwella ansawdd bywydau’r preswylwyr, yn y pen draw.
“Mae chwaraeon yn ysgogi ac yn helpu’r gymuned yn fawr gan ddod â phobl at ei gilydd mewn awyrgylch tîm cadarnhaol mewn modd na all unrhyw beth arall ei wneud fwy neu lai.
“Mae’n helpu yn nhermau iechyd corfforol a meddyliol, felly mae’n ticio pob blwch.
“Mae’r gêm elusennol, ‘dwi’n siŵr, am fod yn ddifyr iawn, a ‘da ni’n ddiolchgar iawn i’r holl chwaraewyr fydd yn rhoi o’u hamser i godi arian dros PACT.
“Yn bersonol, fydda i’n cefnogi’r ddau dîm ar y diwrnod, a’r canlyniad gorau i mi fuasai sgôr gyfartal uchel. Mae pawb yn ennill wedyn.”
Os oes rhywun eisiau rhoddi i PACT, gallwch wneud drwy glicio yn:
PACT CHARITY FOOTBALL MATCH WITH WREXHAM POLICE FC | Localgiving


