Mae’r clwb o Ynys Môn lle dechreuodd yr arwr criced Matthew Maynard ei yrfa ddisglair wedi cael hwb mawr diolch i arian a atafaelwyd oddi ar droseddwyr.
Mae grant o £2,000 gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) wedi galluogi Clwb Criced Porthaethwy brynu cawell rhwyd ar olwynion newydd fel y gall y genhedlaeth newydd o chwaraewyr hogi eu sgiliau batio a bowlio.
Mae PACT yn canolbwyntio bennaf ar ddarparu cyllid i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar gyfer cynlluniau sy’n gwella ansawdd bywyd pobl drwy leihau trosedd neu ofn troseddau.
Dros y chwarter canrif diwethaf mae dros 3,500 o brosiectau ar draws cymunedau ym mhob un sir yng ngogledd Cymru wedi elwa o gyllid gan y sefydliad.
Ymhlith y derbynwyr diweddaraf mae Clwb Criced Porthaethwy sydd hefo dros 100 o fechgyn a merched yn aelodau iau ac sy’n cael ei redeg gan lu o wirfoddolwyr.
Mae gan y clwb gaeau hyfforddi pob tywydd yn barod ac un o’r meysydd sydd hefo’r golygfeydd gorau yn y DU. Mae wedi’i leoli’n uwchben Afon Menai hefo golygfeydd ysblennydd ar draws Eryri a Phen Llŷn.
Mae 10 tîm i gyd, yn amrywio o rai o dan 9 oed i bum tîm hŷn, gan gynnwys tîm merched.
Mae cyn chwaraewyr yn cynnwys Matthew Maynard, sy’n adnabyddus am ei chwarae ymosodol ac ergydion cyflym, a ddaeth trwy’r rhengoedd yn y clwb ac aeth ymlaen i sgorio 25,000 o rediadau i Forgannwg, gan chwarae pedwar prawf a 14 gêm undydd dros Loegr.
Mae’r criw presennol o bobl ifanc yn y clwb yn cynnwys Evie Jones, 12, sydd wrth ei bodd yn chwarae criced.
Dywedodd: “Mae’n hwyl a dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Mae’r cawell newydd yn golygu y byddwn ni’n gallu dysgu sut i chwarae criced gwell.”
Ychwanegodd Ethan Wood, chwaraewr iau arall: “Dwi’n mwynhau batio a tharo’r bêl mor galed ag y galla i.”
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Dwi’n siŵr bod dawn anhygoel Matthew Maynard fel batiwr yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth newydd o gricedwyr fel Evie ac Ethan.
“Mae’n bwysig cefnogi brwdfrydedd pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’r clwb yn amlwg yn cael argraff yn hynny o beth.
“Mae’r grant yn galluogi’r clwb wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r bobl ifanc. Mae’n wych gweld arian gafodd ei ddwyn oddi ar y gymuned drwy drosedd yn dychwelyd i’r gymuned honno.”
Dywedodd Darren Owen, hyfforddwr y tîm iau, eu bod yn hynod ddiolchgar i PACT am y grant.
Dywedodd Darren: “Ein nod ni ydy darparu amgylchfyd saff, braf a llawn hwyl i unrhyw un yn y gymuned fod yn rhan o’n clwb ni. Gallai hyn fod fel rhan o’n timau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi’u trefnu neu fel hyfforddwyr, dyfarnwyr, staff maes, gwirfoddolwyr o fewn y clwb neu wylwyr.
“Mae ein tîm cyntaf ni’n chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Cymru ac mae ein hail dîm ni’n chwarae yn Adran 2. Mae gynnon ni hefyd dimau o dan 9 oed, 11 oed, 13 oed a 15 oed yn chwarae mewn cynghreiriau trefnedig. Ni ydy’r unig glwb criced yng ngogledd Cymru hefo dau dîm o dan 13 oed yn chwarae yn y gynghrair.
“Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cynnal ein timau hŷn, ‘da ni’n rhoi pwyslais enfawr ar ddatblygu ein hadran iau ni.
“Oherwydd y llwyddiant o ran denu dros 100 o aelodau iau, o bedair i 18 oed, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ‘da ni wedi sylweddoli, er mwyn cyflwyno sesiynau hyfforddi llawn hwyl ac amrywiol, y bydd angen i ni gynyddu faint o offer hyfforddi sydd gynnon ni yn y clwb.
“Mae’r cawell rhwyd ar olwynion yn ein galluogi ni fel hyfforddwyr roi cyfle i bob tîm weithio ar ymarferion cysylltiedig fel tîm. Mae hefyd yn rhyddhau rhannau pellach o’r maes fel y gall timau eraill wneud yr un peth.”
Ychwanegodd Darren: “Mae criced yn meithrin ffitrwydd a chydberthynas sy’n galluogi plant o bob cefndir ddod at ei gilydd. Mae’n gamp wych gan mai gwaith tîm, gwneud penderfyniadau, datrys problemau a pharch ydy’r sail.
“Mae’r rhain yn werthoedd pwysig iawn i ni o fewn ein clwb ni. Yna gellir trosglwyddo’r rhain i brofiadau bywyd bob dydd er mwyn helpu creu cymdogaethau saffach a gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd.”
Cafodd y cais am arian gan PACT ei gefnogi gan SCCH Caitlin McGonigle, sy’n gweithio o Orsaf Heddlu Porthaethwy.
Dywedodd: “Mae’r prosiect hwn yn galluogi’r clwb barhau hefo’u sesiynau hyfforddi ond hefyd eu gwella bod yn agored i hyd yn oed fwy o bobl.
“Mae’n cefnogi’r Cynllun Heddlu a Throsedd wrth ddarparu cymdogaethau saffach, helpu dioddefwyr a chymunedau ac yn gwarchod plant a phobl ifanc a’u dargyfeirio oddi wrth y system cyfiawnder troseddol.
Dywedodd: “‘Da ni wedi trafod sefydlu twrnamaint yn y flwyddyn newydd, hefo aelodau o’r Tîm Plismona Cymdogaethau yn cael eu tîm eu hunain er mwyn chwarae yn erbyn tîm cymysg o aelodau ieuenctid a hŷn. Mae hyn er mwyn meithrin partneriaethau a meithrin cydweithrediad rhwng yr heddlu a’r cenedlaethau iau.”
Fe ychwanegodd yr Arolygydd Gareth Parry: “Mae darparu cyfleoedd i dros 100 o blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgaredd cymunedol yn hanfodol i’w cadw nhw’n brysur a draw o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dwi’n llwyr gefnogi’r grant hwn.”

