Hoffwn gofnodi fy niolch ar ran fy hun a’m cyd ymddiriedolwyr i Carl Foulkes sydd newydd ymddeol fel Prif Gwnstabl Gogledd Cymru.
Ymunodd Carl â Heddlu Gogledd Cymru yn 2018. Fe ymunodd â’n bwrdd ymddiriedolwyr yn syth ac fe gymerodd y rôl o fod yn Gadeirydd Dros Dro ym mis Tachwedd y flwyddyn honno yn dilyn marwolaeth drist ein Cadeirydd blaenorol, David Williams MBE DL.
Mae Carl wedi bod yn aelod gwerthfawr o’m bwrdd ac mae wedi cefnogi gwaith PACT yn gyson gan ddod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’n gwaith. Mae ei arweiniad i mi ac i’r ymddiriedolwyr wedi bod yn amhrisiadwy.
Hoffwn ddymuno ymddeoliad hapus a llwyddiannus i Carl gan ddefnyddio gorau iddo ef a’i deulu i’r dyfodol.
Hoffwn hefyd groesawu ein Prif Gwnstabl newydd, Amanda Blakeman, i Heddlu Gogledd Cymru ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi.
Ashley Rogers
Cadeirydd Ymddiriedolwyr PACT
Medi 2022
