Mae SCCH Julie Broadhead a Barry Williams, Gweithiwr Ieuenctid o Wynedd, wedi cael wythnosau prysur yn cynllunio eu prosiect ar gyfer #YmBang eleni.

Ar ddydd Gwener 4 Tachwedd, aethant i Gaernarfon gyda 20 o bobl ifanc lleol, yr arlunydd graffiti Andy Birch a SCCH Gethin Jones, SCCH Ieuan Owen a SCCH Kerryanne Stephenson er mwyn cwblhau murlun Cwpan y Byd.

A dyma’r canlyniad!

Dywedodd SCCH Julie Broadhead: “Roeddem mor lwcus o gomisiynu Andy Birch, yr arlunydd graffiti anhygoel, ar gyfer ein prosiect Ymgyrch Bang eleni. 

“Roedd Barry a minnau eisiau cynnwys pobl ifanc Caernarfon a gwneud rhywbeth anhygoel i’r dref a oedd yn cynnwys Cwpan y Byd sydd ar ddyfod.

“Fe wnaeth y bobl fwynhau cynorthwyo Andy i gwblhau’r wal yn fawr ac rydym mor falch o’r canlyniad.

 

“Rwyf yn gobeithio bydd y Cofis yn ei fwynhau cymaint â ni!”