‘Llongyfarchiadau’ i bawb a wnaeth gymryd rhan yn y sesiwn casglu sbwriel Penycae ar 2 Hydref 2022.
SCCH Purdy Jones ynghyd â Chyngor Cymunedol Penycae drefnodd y digwyddiad a welodd drigolion lleol yn bwrw ati ac yn casglu cyfanswm o 26 bag llawn sbwriel.
Mi wnaeth y gwirfoddolwyr fwynhau pizzas ffres yn ystod eu gwaith oddi wrth Piggin Delicious. Dywedodd SCCH Jones “Roedd hi’n ddiwrnod gwych a dywedodd y cynghorydd lleol (yn ei eiriau ei hun) ei fod yn llwyddiant ysgubol. Diolch i PACT a Chyngor Cymunedol Penycae am gynorthwyo gyda’r arian gan helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant. Casglwyd 26 bag o sbwriel a daeth llawer o deuluoedd a gwirfoddolwyr i helpu. Roedd y pizza yn anhygoel a dosbarthwyd 40 pizza i bawb fwynhau.”
Sicrhawyd arian ar gyfer y diwrnod gan PACT a Chyngor Cymunedol Penycae.


