Raptors yn esgyn diolch i Mike a wnaeth dorri record byd unwaith a hwb ariannol mawr

Mae clwb chwaraeon cadeiriau olwyn a sefydlwyd gan gyn dorrwr record byd paralympaidd yn mynd o nerth i nerth a denu aelodau ledled Gogledd Cymru.

Rhyl Raptors Sports Club celebrate a £2,000 donation from PACT. Pictured from left Ashley Rogers, chairman of PACT, Mike Hayes, Club manager and PCSO Sabrina Illmann-Roberts.

Rŵan maent wedi cael cymorth mewn hwb am fwy o bobl chwaraeon ifanc gan grant o £2,000 ar gyfer cadair olwyn chwaraeon iau a chit o Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT). 

Sefydlwyd Rhyl Raptors yn 2010 gan Mike Hayes, a anwyd gyda spina bifida ac a gystadlodd yn y pentathlon yng Ngemau Paralympaidd Barcelona 1992 ac a ddaliodd y record byd paralympaidd am 1500 o fetrau.

Dywedodd: “Roeddwn yn bentathlet ac roeddwn yn rhagbrawf cyntaf ein digwyddiad diwethaf, y 1500 metr, pan wnes ei osod. Roedd y cyflymaf erioed ond fe wnaeth ond parhau tan yr ail ragbrawf.

“Mi wnes ddod yn ôl i’r Rhyl ac yn 2010, fe wnes i a rhai ffrindiau sylweddoli nad oedd dim yn lleol i bobl gydag anabledd corfforol wneud chwaraeon yn rheolaidd, felly gwnaethom sefydlu Rhyl Raptors ac mae wedi tyfu o hynny.”

Mae bellach yn darparu ar gyfer 60 o gyfranogwyr rheolaidd, o rai 7 oed i rai yng nghanol eu 70au o Ogledd Cymru ynghyd â ffrindiau a chefnogwyr sy’n ymaelodi, sy’n cynyddu’r aelodaeth i 100. Ond maent eisiau cynorthwyo mwy o bobl ifanc i fynd i chwaraeon.

Ychwanegodd Mike: “Roeddwn yn dod o’r Rhyl ond fe es i Ysgol y Gogarth, ysgol arbennig yn Llandudno a oedd yn wych. Mae’n llawer gwell bellach gyda phlant anabl yn mynd i’w hysgolion lleol ond ychydig o gyfleoedd sydd o hyd iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon.

“Mae hynny’n arbennig o wir ers Covid a dyna pam rydym yn canolbwyntio ar roi’r cyfle yna iddynt gan gynnwys manteision yr agweddau cymdeithasol o fod yn rhan o glwb chwaraeon.

“Bydd yr arian rydym wedi’i gael yn ein cynorthwyo ni brynu cadair olwyn i blant sy’n costio £1500 a chit newydd. Mae hynny’n aruthrol i ni.

“Mae’r gadair yn gyflym a symudol. Mae’r ffrâm wedi’i llunio ar gyfer cyswllt a gwarchodaeth gydag olwynion sydd ddim yn troi drosodd. Felly mae’n gryf iawn a sefydlog iawn ac mae’n golygu mwy o gyfleoedd i aelodau ifanc.

“Dyma’r chwaraeon mwyaf cynhwysol gallwch ei gael oherwydd gallwch chwarae mewn rhywun abl. Gallwch gael timau oedran a rhywedd cymysg. Tra rydym yn chwarae pêl fasged yn bennaf, mae cyfleoedd i chwaraeon eraill hefyd.”

Roedd prynu’r offer newid yn bosibl oherwydd SCCH Sabrina Illman-Roberts a wnaeth ymgeisio am yr arian ar ôl cyfarfod y grŵp drwy ei phartner sydd mewn cadair olwyn ac a oedd yn aelod o’r Raptors.

Rhyl Raptors Sports Club celebrate a £2,000 donation from PACT. Pictured from left Mike Hayes, Club manager, PCSO Sabrina Illmann-Roberts, Ashley Rogers, chairman of PACT and club member Bethany Blease.

Dywedodd: “Daeth fy nghydweithwyr sy’n SCCH a minnau i lawr i’r clwb i gynorthwyo. Cawsom ein taro cymaint gan yr hyn roeddent yn ei wneud, yn enwedig gyda’r plant sydd mor wych.

Roeddem yn gallu gweld yr hwyl roeddent yn ei gael ac mae bod mewn cadair olwyn yn deg i bawb. Yn wir, roeddent yn dysgu rhai pethau i ni.”

Ymgeisiodd Sabrina am grant PACT a bu’n llwyddiannus gydag Ashley Rogers, Cadeirydd PACT, yn ymweld â’r clwb a hyd yn oed yn cael cynnig ar bêl fasged cadair olwyn.

Dywedodd: “Mae’n bwysig y dylai pawb fod â chyfle cyfartal i gymryd rhan mewn gweithgaredd gorfforol sy’n hynod bwysig wrth wella lles meddyliol a chorfforol.

“Mae’r manteision hynny ag effeithiau cadarnhaol iawn ar ein cymunedau ni ac mae’n wych gweld cyllid PACT yn cynorthwyo Rhyl Raptors yn uniongyrchol a gweld y ffordd mae’r clwb yn ymgysylltu’n uniongyrchol gyda Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae hyn wedi dod yn sgil cysylltiad Sabrina gyda’r clwb. Mae bod yn aelod o’r Heddlu wedi bod yn hanfodol wrth gael y cyllid hwn ac mae’n dangos catalydd mor wych ydy PACT i glybiau a sefydliadau lleol.”

Mae’r prosiect ond yn un o nifer sydd wedi cael cymorth PACT. Lansiwyd PACT, sy’n elusen annibynnol, yn 1998. Mae’n cynorthwyo mentrau cymunedol, yn enwedig y rhai hynny y mae’r heddlu ynghlwm â nhw.

Yn yr amser hwnnw mae wedi cynorthwyo dros 2,500 o brosiectau, gan fuddsoddi dros £1.6 miliwn mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Ychwanegodd Ashley Rogers: “I nifer o bobl sydd wedi bod yn rhan o’r prosiectau, dyma eu cyswllt cyntaf gyda’r heddlu. Felly, mae gwneud hwn yn brofiad cadarnhaol yn gallu cael canlyniadau mawr ar eu penderfyniadau bywyd yn y dyfodol.

“O Wynedd yn y gorllewin draw i Sir y Fflint a Wrecsam yn y dwyrain, mae PACT yn parhau drwy i gynorthwyo prosiectau sy’n galluogi datblygiad cymunedol cadarnhaol a chynaliadwy. Nid yw’r cymorth cymunedol erioed wedi bod yn bwysicach na rŵan ynghanol pandemig Covid-19.”

Mae PACT yn cynnig ystod o grantiau hyd at £2,000 i brosiectau cymunedol. Am fwy o fanylion a sut i ymgeisio, ewch ar https://www.pactnorthwales.co.uk/applications-ceisiadau/