Eich Cymuned Eich Dewis 2021/22

Mae trechwyr trosedd lleol yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i ymgeisio am gyfran o botyn gwerth £60,000 o arian wedi’i atafaelu oddi ar droseddwyr.

Your Community Your Choice ; Pictured is PCC Andy Dunbobbin with Superintendent Helen Corcoran and Chair PACT North Wales Ashley Rogers. Picture Mandy Jones

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin, defnyddir cronfa Eich Cymuned Eich Dewis i ailgylchu enillion twyllodrus troseddwyr er budd cymunedau ledled y rhanbarth.

Mae’r fenter yn bartneriaeth rhwng Mr Dunbobbin, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a Heddlu Gogledd Cymru. 

Mae hanner yr arian yn cael ei gyfrannu gan y comisiynydd gyda’r gweddill yn dod o arian parod a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr drwy’r Ddeddf Enillion Troseddau.

O ganlyniad, bydd tri grŵp cymunedol ym mhob sir yng Ngogledd Cymru yn derbyn hyd at £2,500 yr un tra bydd dau grant am £5,000 ar gael i sefydliadau sy’n gweithio ledled tair sir neu fwy.

Ar ôl agor ar 15 Tachwedd, mae’r ffenest i grwpiau gyflwyno ceisiadau yn rhedeg tan 10 Rhagfyr, gyda’r enillwyr yn cael eu dewis gan bleidlais gyhoeddus.

Dewisir y rhestr fer gan banel arbennig ac agorir y pleidleisio ar 10 Ionawr gan redeg tan 1 Chwefror.

Mae’r holl gynigion angen cefnogi Cynllun Heddlu a Throsedd y comisiynydd lle mae cyflawni cymdogaethau diogelach a chynorthwyo cymunedau yn flaenoriaethau allweddol.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Mae hyn yn gyfiawnder cymdeithasol ar waith oherwydd nod cynllun Eich Cymuned Eich Dewis yw troi arian drwg yn arian da er mwyn cynorthwyo ein cymunedau o Bont Sir y Fflint i Bont Menai a ledled gweddill y rhanbarth.

“Bydd y prosiectau llwyddiannus yn rhai sy’n cefnogi’r blaenoriaethau strategol yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd

“Rwyf eisiau troi hynny ar ei ben fel bod gennym gyfres o fentrau cymunedol, yn rhoi canlyniadau cadarnhaol i’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.

“Ynghyd a chael ceisiadau o’n trefi mwyaf, hoffwn annog grwpiau o ardaloedd cefn gwlad i ddod ymlaen. Mae hyn am fy mod yn falch o gynrychioli holl gymunedau Gogledd Cymru a bod mor gynhwysol â phosibl.”

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Yr hyn rwyf yn ei hoffi’n benodol ydy natur ddemocrataidd cynllun Eich Cymuned Eich Dewis.

“Mae ynghylch grwpiau cymunedol sy’n ymgeisio am grantiau ac yna’r cymunedau eu hunain sy’n penderfynu sy’n cael y cyllid.  Mae hynny’n hudolus.

“Un peth fydd angen i’r holl ymgeiswyr wneud ydy trafod eu cynnig gyda’u tîm plismona cymdogaethau  lleol a chael cymeradwyaeth eu harolygydd ardal cyn cyflwyno eu cais.

“Mae elfen benodol o hanes Robin Hood i hyn y mae pobl yn ei hoffi ac sydd wedi’i wneud yn gynllun llwyddiannus. Mae hyn wedi’i danlinellu gan y ffaith y denodd dros 30,000 o bleidleisiau llynedd.

“Rwyf yn falch iawn fod PACT yn gallu cyflawni hyn ar ran CHTh a Heddlu Gogledd Cymru. Buaswn yn annog grwpiau gwirfoddol ac elusennau i gyflwyno eu ceisiadau.”

Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Helen Corcoran: “Mae cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn anelu yn union at yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni.

“Mae yna gymaint o grwpiau cymunedol allan yna. Mae’r fenter hon yn ymwneud â’r heddlu a’r gymuned yn gweithio gyda’i gilydd i wneud pethau yn well i bobl Gogledd Cymru, gyda’r fantais bod peth o’r arian yn dod oddi wrth droseddwyr.

“Rydym eisiau cynorthwyo cymunedau fel eu bod yn gallu bod yn gyfrifol am eu hardaloedd eu hunain.

“Gall grwpiau cymunedol wneud llawer iawn i wneud eu hardaloedd lleol yn fwy diogel, lleihau trosedd a lleihau aildroseddu. Mae hefyd yn anfon neges dda i’r cymunedau oherwydd ei fod yn dangos ein bod yn gwrando arnynt.”

 

Eich Cymuned Eich Dewis 2021-22 pecyn cais (WORD)

Eich Cymuned Eich Dewis 2021-22 pecyn cais PDF

 

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi eu cwblhau drwy e-bost i [email protected] erbyn 5yh ar y dyddiad cau sef 10 Rhagfyr. Am fwy o wybodaeth ewch ar wefan y comisiynydd www.northwales-pcc.gov.uk neu wefan PACT www.pactnorthwales.co.uk