Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb 8-16 Hydref 2022

Rydym yn falch o gefnogi PC Richard Fishlock, gyda’i ymgyrch posteri a welwyd yn ddiweddar yn Wrecsam a’r wythnos hon yn y Rhyl.

Mae PC Fishlock yn Swyddog Trosedd Casineb gyda Thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu Gogledd Cymru. Creodd yr ymgyrch hon gyda Dynamic, canolfan i blant a phobl ifanc anabl yn Wrecsam. Gweithiodd y grŵp gyda PC Fishlock ar y dyluniad wrth gael y cyfle hefyd i gael profiad am drosedd casineb drwy sesiynau ymwybyddiaeth casineb. Gallwch weld eu gwaith ar yr arwyddion electronig yn anfon y neges ATAL CASINEB a #MaeCasinebYnBrifo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb 2022. 

Gwelodd ymgyrch y Rhyl grwpiau cymunedol a chynghreiriaid LHDTQ+ ledled Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd ym Mhencadlys Bae Colwyn er mwyn trafod materion a syniadau allweddol. Roedd yn un o’r cyfarfodydd wyneb yn wyneb cyntaf ar raddfa fawr rydym wedi’u cynnal ers llacio cyfyngiadau Covid. Roedd yn wych gallu cynnal trafodaeth grŵp mor bwysig. Yn ystod y cyfarfod gwnaethant hefyd weithio gyda PC Fishlock ar y dyluniad sy’n y Rhyl yr wythnos hon.

Dywedodd PC Fishlock: “Mae trosedd casineb wedi codi 28% ers y llynedd felly mae’n bwysig anfon negeseuon clir i’r cyhoedd. Bydd hyn â theimlad lleol gwych gan ei fod wedi dod o’r gymuned ei hun.  Hoffwn ddiolch i bobl ifanc Dynamic a’r aelodau LHDTQ+ am gymryd rhan a chynorthwyo’r gwaith hwn, wrth hefyd ddiolch i’n cyllidwyr PACT a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.”

Cewch wybod mwy am Dynamic Wrexham a’u gwaith gyda phobl ifanc drwy fynd ar eu gwefan:

www.Dynamicwrexham.org.uk

@DynamicWrexham

Er mwyn hysbysu am Drosedd Casineb, ewch ar ffoniwch 101/999. Os yw’n well gennych gael asiantaeth hysbysu trydydd parti yn hysbysu ar eich rhan, gallwch gysylltu â gwasanaethau fel @VictimSupport.

 

Er mwyn gwybod mwy am Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb 8-16 Hydref 2022, ewch ar:

www.stophate.uk.org

#LledaenuCariadNidCasineb #MaeCasinebYnBrifo