Hebogiaid yn barod i hedfan fry wedi i rai ddod i’r adwy

Mae cae blêr mewn pentref ger Wrecsam nad oedd wedi’i ddefnyddio ers amser maith wedi cael ei achub gan y gymuned leol ac wedi’i droi’n gae pêl droed.

Mae trawsnewid y tir tu ôl i Faes Meillion, yn y Mwynglawdd, wedi galluogi i Hebogiaid dan 12 Coedpoeth United ddechrau eu tymor yng Nghynghrair Iau Wrecsam.

Mae hyn i gyd wedi bod yn bosibl diolch i grant o £2,000 gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) a chymorth gan y cyngor cymuned lleol sydd hefyd wedi rhoi £1,000.

Am fwy na 15 mlynedd cyn i’r trigolion ymyrryd, roedd y cae wedi bod yn llawn danadl poethion a glaswellt a oedd yn dair troedfedd o uchder. Roedd baw ci hefyd a oedd yn berygl arall.

Flwyddyn yn ddiweddarach mae’r glaswellt wedi’i dorri’n dwt. Gwnaeth ffermwr lleol dorri a belio’r cae am ddim. Mae pyst goliau a marciau wedi’u gosod yn barod ar gyfer yr Hebogiaid. 

Ymwelodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT, â’r clwb a dywedodd:  “Am brosiect gwerth chweil.  Rwyf yn hynod falch fod PACT wedi gallu cynorthwyo Coedpoeth United a gwirfoddolwyr lleol.

“Maent wedi gwneud gwaith mawr i ddod â’r diffeithdir hwn yn ôl i’r gymuned.

“Mae hyn yn creu dyfodol gwell i bobl leol go iawn. Mae’n brosiect llawr gwlad i’r gymuned leol gan y gymuned leol.”

Yr un oedd yn ysgogi pawb yn y prosiect oedd Jessica Wright, ysgrifennydd y rhai o dan 12. Mae ei thri mab yn chwarae i’r clwb ac mae ei gŵr Guy yn hyfforddi’r tîm ynghyd â Jamie Prydden, trigolyn arall.

Dywedodd Jessica: “Roedd y cae’n cael ei ddefnyddio gan bobl ar feiciau modur ac roedd tipio anghyfreithlon yn digwydd. Roedd pobl yn gadael i’w cŵn faeddu’r lle ac roedd yr hen ystafelloedd newydd yn cael eu fandaleiddio.

“Roeddem eisiau iddo gael ei ddefnyddio fel cae pêl droed eto ar gyfer y clwb lleol ond hefyd ar gyfer y gymuned yn y Mwynglawdd. Roeddem eisiau darparu amgylchfyd diogel a glân i blant y pentref chwarae arno.

“Mae’n gweithio i bawb achos roedd tîm iau Coedpoeth United angen mwy o gyfleusterau chwarae a hyffordd. Mae gennym 230 o blant wedi cofrestru ac rydym newydd ddechrau tîm genethod.

“Bydd yr Hebogiaid yn chwarae yma, ac mae ganddynt sgwad o 17 yn barod ar gyfer eu gemau naw bob ochr.

“Mae mor wahanol i’r hyn oedd 12 mis yn ôl pan oedd ond yn ddiffeithdir annymunol.

“Roedd y glaswellt mor fawr, nid oeddech yn gweld rhai o’r plant bron. Mae’n siŵr bod llawer o bobl yn meddwl ein bod wedi drysu, ond roedd gennym weledigaeth ar gyfer y lle hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd John Edwards, cadeirydd Cyngor Cymunedol y Mwynglawdd: “Maent wedi gweithio’n galed iawn i achub y cae hwn a’i dacluso oherwydd roedd golwg mawr arno.

“Mae’n dda ei weld yn cael ei ddefnyddio eto. Gobeithio y bydd yn adnodd gwirioneddol i bentref y Mwynglawdd a’i bobl ifanc.”

Mae prosiect y Mwynglawdd ond yn un o nifer sydd wedi cael cymorth PACT. Lansiwyd PACT, sy’n elusen annibynnol, yn 1998. Mae’n cynorthwyo mentrau cymunedol, yn enwedig y rhai hynny y mae’r heddlu ynghlwm â nhw.

Yn yr amser hwnnw mae wedi cynorthwyo dros 2,500 o brosiectau, gan fuddsoddi dros £1.6 miliwn mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Ychwanegodd Ashley Rogers: “I nifer o bobl sydd wedi bod yn rhan o’r prosiectau, dyma eu cyswllt cyntaf gyda’r heddlu. Felly, mae gwneud hwn yn brofiad cadarnhaol yn gallu cael canlyniadau mawr ar eu penderfyniadau bywyd yn y dyfodol.

“O Wynedd yn y gorllewin draw i Sir y Fflint a Wrecsam yn y dwyrain, mae PACT yn parhau drwy i gynorthwyo prosiectau sy’n galluogi datblygiad cymunedol cadarnhaol a chynaliadwy. Nid yw’r cymorth cymunedol erioed wedi bod yn bwysicach na rŵan ynghanol pandemig Covid-19.”

Mae PACT yn cynnig ystod o grantiau hyd at £2,000 i brosiectau cymunedol. Am fwy o fanylion a sut i ymgeisio, ewch ar https://www.pactnorthwales.co.uk/applications-ceisiadau/