[:en]PACT funding for Caernarfon graffiti wall

Rhoddwyd arian gan Ymddiriedaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) i Wasanaeth Iechyd Gwynedd – Ardal Arfon sydd wedi bod yn gweithio ar y cyd â Sylfaen Pêl-droed i greu murlun graffiti ar faes yr Oval, cartref tîm pêl-droed tref Caernarfon.

Mae arian PACT wedi galluogi’r grŵp i ddod at ei gilydd ar gyfer tri sesiwn yn cynnwys cynllunio a dylunio’r murlun, paratoi’r deunyddiau ac adeiladu’r murlun.

Aeth PC Dewi Davies a SCCH Liam Bibby i gynorthwyo i greu’r murlun ac i gwrdd â’r pum person ifanc o Ysgol Dyffryn Nantlle ac Ysgol Syr Huw Owen a gafodd eu dewis i gyfrannu at y prosiect.

Y bobl ifanc, sy’n rhan o Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd – Ardal Arfon, a wnaeth ddylunio’r murlun sy’n dangos arfbais y clwb pêl-droed. Mae’r murlun yn wynebu’r cae fel y gall y cefnogwyr yn y cae edmygu’r gwaith celf pan fyddant yn ymweld â’r safle.

Ar y diwrnod yr artist graffiti Andy Birch, aka “Dime” oedd wrth y llyw yn creu’r murlun ac yn dysgu’r bobl ifanc i feithrin sgiliau mewn celfyddyd graffiti.

Dywedodd PC Dewi Davies, Rheolwr Rhawd y Gymuned ar gyfer Caernarfon: “Mae’n wych gweld yr holl waith caled a’r talent sydd wedi mynd i mewn i greu y murlun hwn a bydd cyfle i’r gymuned gyfan gael ei weld. Mae’r bobl ifanc hyn wedi gwneud gwaith ardderchog ac roedd hi’n wych cael cyfarfod â nhw a’u cefnogi ar y prosiect hwn.”

Dywedodd Dave Evans, Rheolwr Prosiect PACT: “Nod arian PACT yw cefnogi cymunedau lleol ac yn y prosiect hwn helpu ein pobl ifanc i weithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu, Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd a Chlwb Pêl-droed Caernarfon.” Rydym wrth ein bodd bod arian o Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) wedi helpu i’r prosiect hwn fod yn llwyddiant”.