Mae prosiect amgylcheddol sy’n ceisio rhoi sgiliau yn y gweithle i bobl ifanc sydd wedi’u taro’n galed gan gyfyngiadau symud y pandemig wedi cael cefnogaeth elusen gymunedol.
Mae Cyfeillion y Cob ar Ffordd y Gors, yn y Rhyl wedi cael offer newydd sbon i’w eu gweithdy coed gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT).
Bydd amrywiaeth o lafnau ar gyfer y bwrdd gwaith trydan, sy’n cynnwys peiriannau cylchlif, a llif meitr yn ogystal â mygydau llwch ar gael i’w defnyddio i helpu pobl leol sydd wedi dioddef yn arw oherwydd hunain-ynysu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud er mwyn iddynt allu cael profiad, sgiliau a chymwysterau i’w helpu i ddatblygu gyrfaoedd newydd.
Mae’n rhan o brosiect cymunedol mawr gan y Cyfeillion sy’n cynnwys meithrinfa blanhigion fechan sef Y Sied Blannu, tyfu blodau a llysiau i’w gwerthu, melin goed sy’n werth £11,000, y gweithdy coed a chynlluniau i drawsnewid tir gwastraff sydd wedi gordyfu yng Nglan Morfa, ger Ffordd y Gors, yn erddi a pherllan.
Dywedodd yr aelod lleol o Gyngor Dinbych, y Cynghorydd Pete Prendergast, sy’n Gadeirydd Y Cyfeillion: “Cefndir y syniad am weithdy yw er mwyn darparu rhywbeth i bobl dros 16 oed nad oedd yna unrhyw beth wedi’i ddarparu ar eu cyfer mewn gwirionedd.
“Mae gennym hyd at chwech o bobl yno yn dysgu sgiliau gwaith coed traddodiadol a gallent hyd yn oed ennill NVQ Lefel Un gydag o leiaf dri chwmni lleol sydd â diddordeb eu cyflogi.
“Pobl ifanc yw’r rhain, na fyddai rhai ohonynt byth yn gadael eu hystafelloedd, sydd wedi magu hyder a phwrpas gwirioneddol mewn bywyd ar ôl cymryd rhan yma., Cymaint fel bod bron yr holl bethau a ddefnyddir yma wedi cael eu gwneud yn y gweithdy acw.”

Rhyl
The Friends of the Cob, The Potting Shed
The North Wales Police and Community Trust are backing Rhyl charity Friends of the Cob by buying tools for their workshop on Marsh Road,
Lee Hinchliffe
Ymhlith y rhai sy’n elwa mae Lee Hinchliffe, 37 oed o’r Rhyl, a ddywedodd: “Rwyf wedi bod yma ychydig dros ddau fis ac mae wedi newid fy mywyd.
“Roeddwn i wedi cloi fy hun i ffwrdd oherwydd Covid ond roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n rhoi cynnig ar hyn ac wedi dysgu cymaint yn barod a gobeithio y byddaf yn rhan o redeg y felin goed pan ddaw yma.
“Oni bai am y lle yma byddwn i’n dal i gloi fy hun yn fy ystafell.”
Ymwelodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers, o Brestatyn, â’r clwb ynghyd ag Uchel Siryf Clwyd, Steve Thomas, a dywedodd: “Yr hyn rwy’n ei hoffi mewn gwirionedd yw ei fod mor hollgynhwysol yma ac yn rhychwantu’r gymuned gyfan, o 16 i 60.
“Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc yma ddysgu sgiliau newydd a meithrin eu hyder mewn amgylchedd ddiogel a chyfeillgar tra’n cefnogi cymunedau cynaliadwy ac economi gylchol.
“Rwy’n hapus iawn bod PACT yn gallu cefnogi prosiect mor werth chweil drwy ddarparu cyllid ar gyfer offer hanfodol.
“Mae’r gallu i ryngweithio ag eraill mewn lleoliad cymdeithasol ond diogel wrth ddysgu sgiliau newydd, yn enwedig ar ôl 18 mis o gyfyngiadau symud Covid, mor bwysig pan fydd cymaint o bobl wedi’u hynysu’n gymdeithasol.
“Mae maint y prosiect yma wedi creu argraff fawr arnaf ac rwy’n falch ein bod wedi gallu helpu drwy ddarparu cyllid allweddol.
“Dylai Cyfeillion y Cob fod yn falch o’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud yn y Rhyl ac mae camau nesaf y prosiect yn edrych hyd yn oed yn fwy cyffrous i’r gymuned leol.”
Gwnaed y cais i PACT gan Anna Algieri, Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu a ddywedodd: “Mae Cyfeillion y Cob yn gweithredu yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac yn cynnig cyfle i ddysgu sgiliau newydd a magu hyder a sgiliau bywyd.
“Mae’n cael ei ystyried yn amgylchedd diogel a chyfeillgar ac yn gyfle i ddysgu heb fod angen talu am ddeunyddiau neu offer drud.
“Mae’r gweithdy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr lleol sydd wedi gwneud yr elusen yn groesawgar iawn i bobl sy’n dioddef o anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl gan eu bod yn gallu mynychu a bod yn nhw eu hunain sy’n annog eu gallu i ddysgu.”
Mae prosiect Cyfeillion y Cob yn un o lawer sydd wedi cael eu cefnogi gan PACT, elusen annibynnol a lansiwyd ym 1998 i gefnogi mentrau cymunedol, yn enwedig y rhai y mae’r heddlu’n ymwneud â hwy.
Yn y cyfnod hwnnw mae wedi helpu dros 2,500 o brosiectau, gan fuddsoddi mewn rhwng 70 a 100 o brosiectau bob blwyddyn mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Ashley Rogers: “I lawer sy’n ymwneud â’r prosiectau, dyma eu rhyngweithio cyntaf gyda’r heddlu, felly gall gwneud hyn yn brofiad cadarnhaol arwain at ganlyniadau dwfn ar eu dewisiadau bywyd yn y dyfodol.
“O Wynedd yn y gorllewin i Sir y Fflint a Wrecsam yn y dwyrain, mae PACT yn parhau i gefnogi prosiectau sy’n galluogi datblygu cymunedol cadarnhaol a chynaliadwy ac nid yw hyn erioed wedi bod yn bwysicach nag ar hyn o bryd yng nghanol pandemig Covid-19.”

Rhyl
The Friends of the Cob, The Potting Shed
The North Wales Police and Community Trust are backing Rhyl charity Friends of the Cob by buying tools for their workshop on Marsh Road,
PC Simon Keeting, PACT Chair Ashley Rogers, High Sheriff Steve Thomas and PCSO Anna Algieri
Mae PACT yn cynnig amrywiaeth o grantiau o hyd at £2,000 ar gyfer prosiectau cymunedol – am fwy o fanylion a sut i wneud cais ewch i https://www.pactnorthwales.co.uk/applications-ceisiadau/

