ENILLWCH ARIAN AR GYFER EICH CLWB, GRWP NEU YSGOL!
Gyda’r gwyliau ysgol ar ein gwarthaf, mae Gwasanaethau Brys ledled Gogledd Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod pawb yn cael haf diogel a phleserus. Eleni, mae Heddlu Gogledd Cymru, PACT âSolon yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi cyfle i ennill arian parod ar gyfer eu clwb / grwp / ysgol.
Rydym yn annog grwpiau ieuenctid ledled Gogledd Cymru i gymryd rhan yn Her Fawr yr Haf – Ffordd wych o wneud argraff yn eich cymuned a chyfle i ennill arian!Her Fawr yr HafHer Haf. Rydym yn annog grwpiau ieuenctid ledled Gogledd Cymru i gymryd rhan yn Her Fawr yr Haf. Mae hon yn ffordd wych i grwpiau / clybiau / ysgolion gynorthwyo yn eu cymuned, codi ymwybyddiaeth am broblemau lleol neu genedlaethol, addysgu pobl eraill ynghylch peryglon gweithgareddau penodol neu wneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol.
Prosiectau i’w cynnal rhwng 2 Mehefin – 1 Medi 2025
YrHer!
• Rhaid i’ch Tîm fod yn rhan o grwp ieuenctid, clwb, dosbarth neu ysgol sydd wedi sefydlu
• Nid oes cyfyngiad ar y niferoedd o bobl a geir i ffurfio tîm
• Gall tîm gynnwys cymysgedd o oedrannau rhwng 5 a 18.
• Gall mwy nag un prosiect tîm fynd i gystadleuaeth
• Enillwch arian ar gyfer eich clwb, grwp neu ysgol!• Gwobr 1af £750, 2il wobr £500, 3edd wobr £250, a gwobrau ariannol pellach i’w hennill!
• Rhaid i’ch prosiect gynorthwyo gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill
• Cofrestrwch Nawr! Rhaid i bob grwp fod ag o leiaf un oedolyn yn ymgynghori – rhywun sy’n rhan o’r tîm ac sy’n 18 oed neu drosodd. Bydd angen i’ch ymgynghorydd sy’n oedolyn gofrestru eich tîm. Cliciwch yma er mwyn gofyn am eich Llyfr Cofnodion ar gyfer Her Fawr yr Haf.
Os ydych angen mwy o wybodaeth am yr her, e-bostiwch: youthengagementofficer@northwales.police.uk

