Chwilio am wirfoddolwyr i elusen PACT

Mae’r chwilio yn dechrau am wirfoddolwyr newydd.

Mae’r alwad wedi dod gan elusen Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) sy’n dathlu 25 ⁠mlynedd eleni.

Mae’r elusen am recriwtio gwirfoddolwyr, un i weithio ymhob un o’r tri rhanbarth plismona, Sir y Fflint a Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych a Gwynedd ac Ynys Môn.

Datgelodd PACT yn ddiweddar ei fod wedi dosbarthu mwy na £2 filiwn mewn grantiau ac wedi ariannu dros 2,500 o brosiectau cymunedol ers ei sefydlu yn 1998.

Er mwyn dathlu cyrraedd y garreg filltir hon sefydlwyd cronfa o £25,000 ac mae’n gwahodd ceisiadau am grantiau o £2,500 ar gyfer mentrau lleol ar draws y rhanbarth – y dyddiad cau yw 30 Mehefin.

Daw llawer o arian PACT o arian wedi ei atafaelu o droseddwyr a’i ail-ddosbarthu ar gyfer lles y cyhoedd.

Mae’r sefydliad yn gweithio’n agos gyda thimau plismona cymdogaethau Heddlu Gogledd Cymru, yn enwedig y rhwydwaith o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH).

Yn ôl PACT, ei brif bwrpas yw rhoi arian i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar gyfer cynlluniau sy’n gwella safon byw pobl drwy leihau trosedd ac ofn trosedd.

Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Rydym yn dathlu chwarter canrif o PACT ond nid ydym yn llaesu dwylo. Rydym am adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi cyflawni ar gyfer y 25 mlynedd nesaf.

“Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar yr help yr ydym wedi derbyn gan wirfoddolwyr ac rydym yn mynd i recriwtio mwy er mwyn cynyddu ein gweithgareddau.

“Os ydych yn angerddol am ein cymunedau ac am gymryd rhan, mae hwn yn gyfle gwych i ryngweithio a gweld y prosiectau anhygoel sy’n gwneud gwaith rhagorol yn y gymuned.

“Mae llawer o’n harian yn cael ei atafaelu oddi wrth enillion twyllodrus troseddwyr. Mae hyn yn ymwneud â chyfiawnder adferol ac mae’n briodol iawn bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu’r cymunedau sydd wedi cael ei niweidio gan drosedd, gan droi arian drwg i rywbeth da. Dyma haeddiant.”

Roedd Mark Owen, Pennaeth Dinasyddion mewn Plismona a Phrif Swyddog Swyddogion Gwirfoddol yn Heddlu Gogledd Cymru yn rhan o sefydlu PACT pan roedd yn Arolygydd yn edrych ar ôl diogelwch cymunedol yn yr heddlu.

Dywedodd: “Mae’r hyn mae PACT wedi cyflawni yn wych, gyda’r holl grantiau sydd wedi eu dyfarnu a’r gwaith da sydd wedi digwydd ers iddo gael ei sefydlu. Mae’n fendigedig.

“Y ddolen uniongyrchol i fy rôl gyfredol fel y person sydd yn gyfrifol am wirfoddoli yng Ngogledd Cymru, gyda Swyddogion Gwirfoddol, Gwirfoddolwyr Cefnogol yr Heddlu a’r Cadetiaid yw eu bod yn elwa yn uniongyrchol oddi wrth PACT.

“Rydym nawr yn gweithio ar raglen i’n Swyddogion Gwirfoddol i fod yn llysgenhadon i PACT ar lefel leol, gan greu cylch o wirfoddoli i’r heddlu ac yn ôl.

“Os rhywbeth, mae PACT yn fwy perthnasol nag erioed ac mae’n helpu gwneud cymunedau’n fwy diogel.

“Mae llawer o ymchwil academaidd yn dangos bod gwirfoddolwyr yn teimlo’n dda ac yn ennyn balchder o wirfoddoli. Mae’n gwneud lles iddynt.

“Mae gan bobl sydd ar fin ymddeol neu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar sgiliau gwerthfawr a gwybodaeth a all fynd yn wastraff fel arall. 

“Drwy wirfoddoli rydych nid yn unig yn rhoi rhywbeth yn ôl ond hefyd rydych yn cael budd o helpu eraill hefyd”.

Mae Sonia Jones, sy’n fam i ddau o blant ac sydd yn gweithio amser llawn fel rheolwr gweinyddol yn y fferyllfa yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi bod yn swyddog gwirfoddol am saith mlynedd.

Mae’n gwirfoddoli am tua 30 awr y mis ar y rhawd ar Ynys Môn ac mae ganddi’r un pwerau a phob swyddog heddlu arall – yr unig wahaniaeth yw nad yw hi’n cael ei thalu.

Mae Sonia wrth ei bodd ei bod hi’n llysgennad i PACT, ar ôl bod yn dyst i’r gwaith da maent yn gwneud.

Dywedodd: “Mae plismona wedi bod yn rhywbeth dw i wedi dymuno gwneud erioed. Serch hynny, dw i wedi bod yn brysur yn byw fy mywyd a nawr dw i’n cael y gorau o ddau fyd.

“Dw i’n mwynhau rhoi rhywbeth yn ôl ac mae gwisgo’r iwnifform yn rhoi balchder mawr i mi. Mae’n gwneud i chi deimlo’n arbennig. Dw i wrth fy modd”.

Bu Gary Leighton-Jones yn gweithio fel aelod o staff yn yr Adran Cynllunio Weithredol yn Heddlu Gogledd Cymru am 21 mlynedd.

Mae nawr yn gwneud amrywiaeth o waith gwirfoddol ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru, yn ôl-drafod digwyddiadau difrifol, chwarae rôl ar gyfer ymarferion hyfforddi a hefyd yn rhedeg loteri’r heddlu.

Dywedodd Gary: “Mi wnes i fwynhau fy amser yn Heddlu Gogledd Cymru yn fawr a ro’n i am gadw yn brysur ar ôl ymddeol oherwydd bod gen i gymaint i’w gynnig o hyd.

“Dw i hefyd yn argymell gwirfoddoli oherwydd dw i’n credu mewn rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas. Dw i’n cael boddhad mawr wrth helpu.”

Dywedodd rheolwr prosiect PACT Dave Evans: “Rydym yn chwilio am griw o unigolion sydd wedi ymrwymo i’n helpu ni i ymgysylltu â grwpiau cymunedol ar draws y chwe sir a gweithredu fel eiriolwyr i PACT, gan annog grwpiau i wneud cais am arian a hefyd rhoi adborth i ganfod pa mor effeithiol mae’r arian wedi bod neu fel arall.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda rhwydwaith o SCCH ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r gwaith hwn gyda Swyddogion Gwirfoddol, swyddogion heddlu gwirfoddol, sy’n gweithio ar draws Gogledd Cymru.

“Rydym yn chwilio am bobl sydd â diddordeb mewn materion cymunedol ac am wneud gwahaniaeth gwirioneddol a gwneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag o.”

⁠Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr neu wneud cais am grant fynd i wefan PACT  www.pactnorthwales.co.uk neu e-bostiwch  [email protected] neu cysylltwch â Dave Evans ar 01745 588516