Mae Heddlu Gogledd Cymru, mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yr RNLI a PACT wedi lansio #HerFawrYrHaf2023 – cyfle i blant a phobl ifanc gwblhau prosiect dros yr haf a fydd yn gwella eu cymuned mewn rhyw ffordd.
Rydym yn galw ar ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid a chlybiau i feddwl am syniadau arloesol a wnaeth gadw pobl yn ddiogel neu elwa pobl a llefydd yn eu cymunedau. Gall hyn gynnwys edrych ar fannau sydd wedi’u hesgeuluso. Mae hyn er mwyn cynorthwyo atal tanau, hybu defnyddio padlfyrddau’n ddiogel a gwisgo teclynnau arnofio personol neu ymgyrchu am gyfleusterau ieuenctid yn eich ardal.
Mae gan gystadleuwyr siawns o ennill hyd at £1000 ar ran eu hysgol, grŵp neu glwb, gyda gwobrau ariannol pellach ar gael!
Gall timau ddechrau cofrestru eu diddordeb o ddydd Llun 5 Mehefin ymlaen!
Gweler ynghlwm ddogfen er gwybodaeth bellach neu cliciwch ar y ddolen isod…

