Eich Cymuned Eich Dewis 2021
Eleni, derbyniodd ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ dros 32,000 o bleidleisiau yn cefnogi prosiectau ar draws Gogledd Cymru gan y cyhoedd.
Roedd tri sefydliad ymhob sir yn llwyddiannus a chyflwynwyd sieciau iddynt ar 25 Chwefror 2021 mewn seremoni rithiol a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Arfon Jones, Prif Gwnstabl Sasha Hatchett ac Ashley Rogers, Cadair Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT).

Pictured is Ashley Rogers of Mersey Dee Alliance. Picture Mandy Jones
Dywedodd Ashley: Mae “Eich Cymuned Eich Dewis’ yn ffordd werthfawr o gefnogi cymunedau gan roi’r dewis o ba brosiectau sydd i gael eu cefnogi yn nwylo’r cyhoedd.
“Mae’n broses ddemocrataidd iawn a dyna pam rwyf yn credu ei fod wedi bod yn gynllun mor llwyddiannus ac wedi para mor hir.
Mae ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ yn gynllun gwych i fod yn rhan ohono a gallwch weld y manteision ar unwaith wrth i’r arian gryfhau ein cymunedau.
Hoffwn ddweud ‘Diolch yn Fawr’ i bawb a wnaeth ymgeisio am y gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi’r Cynllun Heddlu a Throsedd, eu Timau Plismona Cymdogaeth leol ac yn bwysicaf oll – eu cymunedau.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett: “Mae’r arian yn cynnwys arian oddi wrth asedau wedi eu hatafaelu oddi wrth Ddeddf Enillion Trosedd. Mae hon yn neges hanfodol oherwydd drwy broffesiynoldeb Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chyda chefnogaeth y Llysoedd, gallwn daro’r troseddwyr ble mae’n brifo – yn eu pocedi.”
Yr enillwyr yw:
Ynys Môn
Clwb Rygbi Llangefni https://www.clwbrygbillangefni.co.uk/
Clwb Ieuenctid Caergybi
Hwb Cemaes
Conwy
Menter Kind Bay
Prosiect Gwirfoddoli Ieuenctid Hosbis Dewi Sant
Hope Restored
Sir Ddinbych
Clwb Bocsio Amatur Ieuenctid Y Rhyl
Dinbych yn Blodeuo
Cymdeithas Caeau Chwarae a Hamdden Llanferres
Sir y Fflint
Cofeb Rhyfel Penyffordd a Phenymynydd
TaeKwonDo Glannau Dyfrdwy
CP Castell Alun Colts
Gwynedd
Clwb Criced Caernarfon
Ffrindiau Wern Mynach, Abermaw
Cronfa Hen Fynwent Llanbeblig
Wrecsam
Clwb Criced Brymbo
Cyngor Tref Y Waun
CP Ieuenctid Rhostyllen
Gogledd Cymru
Youth Shedz Cymru
Urdd Gobaith Cymru, Glanllyn, Bala
DASU

