Hwb ariannol i wirfoddolwyr 4×4 wnaeth gynorthwyo staff y GIG a oedd yn sownd mewn eira

. Picture Mandy Jones

Mae tîm o wirfoddolwyr 4×4 wnaeth gynorthwyo staff y GIG a oedd yn sownd mewn eira ddechrau’r flwyddyn yn ehangu eu gwasanaeth ledled Gogledd Cymru. Mae hyn diolch i hwb ariannol gan elusen heddlu.

Mae’r elusen 4×4 Response Wales yn uwchraddio offer cyfathrebu hanfodol ac yn hyfforddi mwy o aelodau ar ôl derbyn grant o £2,000 o Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru (PACT).

Mae’r sefydliad gwirfoddol yn cynorthwyo’r heddlu, cynllunwyr argyfwng ac ymatebwyr golau glas eraill drwy gynnig eu cerbydau 4×4 mewn argyfwng.

Gwnaeth gwirfoddolwyr o 4×4 Response Wales gynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru yn ddiweddar yn ystod argyfwng llifogydd ym Mangor is y coed ym mis Ionawr. Fe wnaethant gynorthwyo i ddiogelu 40 o bobl ac maent hefyd wedi bod yn cludo cyflenwadau bwyd i bobl fregus yn ystod y pandemig.

Gwnaethant hefyd deithio dros 2,000 o filltiroedd wrth gludo 52 o weithwyr y GIG o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) drwy’r eira ddechrau’r flwyddyn. Roedd hyn fel y gallent gyrraedd y gwaith yn ddiogel pan nad oedd eu cerbydau nhw eu hunain yn gallu ymdopi gyda’r amodau.

Mae’r elusen yn un o fwy na 2,500 o brosiectau a gynorthwyir gan PACT sydd wedi buddsoddi dros £1.6 miliwn mewn prosiectau cymunedol llawr gwlad sydd wedi’u llunio i drechu trosedd a chreu “cymunedau cadarn”. Mae hyn yn aml yn cael ei ariannu gan arian parod a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.

Mae astudiaeth effaith annibynnol a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi datgelu’r manteision mawr mae prosiectau a ariannwyd gan PACT wedi dod i ddiogelwch a chysylltiadau cymunedol dros y ddwy ddegawd ddiwethaf. Mae cymaint â 96% yn adrodd am newidiadau bywyd cadarnhaol i’r bobl maent yn eu cynorthwyo.

Mae’r ymchwil, a ariannwyd ar y cyd gan PACT a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn rhoi cipolwg manwl ar sut mae’r elusen yn cynorthwyo i drawsnewid bywydau. Mae’n cynorthwyo pobl i newid eu hymddygiad ac yn dod â chymunedau at ei gilydd.  

Llwyddodd ymatebwyr 4×4 Response Wales yng Ngogledd Cymru i ymgeisio am gyllid er mwyn sicrhau system llwybrydd symudol a wnaiff warchod yn erbyn signalau data 3G/4G. Sicrheir bod rhwydwaith WiFi ar gael mewn lleoliadau Pwynt Rheoli Ymlaen lle bynnag mae ymatebwyr yn cael eu gosod – hyd yn oed yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell.

Bydd y grant hefyd yn ariannu cost hyfforddiant ymwybyddiaeth am lifogydd Defra 1 i hyd at 15 o ymatebwyr yn rhannol ynghyd ag offer iechyd a diogelwch eraill. Mae hyn er mwyn cynorthwyo gyda mynediad a ffordd allan ddiogel i anafusion ac ymadawyr adeg llifogydd ac argyfyngau eraill.

Dywedodd Vernon Turnbull, Swyddog Cynllunio 4×4 Response Wales Cymru: “Mae gennym 50 o aelodau ac mae oddeutu 35 ar waith. Heb arian PACT, byddai rhaid i bob aelod dalu am y cit angenrheidiol. Mae’n debyg na fyddai hynny’n digwydd gan eu bod eisoes yn cyfrannu at eu cerbydau, offer cynefino, hyfforddiant a diesel.

“Rydym yn ddiolchgar iawn, yn enwedig i Heddlu Gogledd Cymru wnaeth feddwl cymaint am y gwaith rydym yn ei wneud a’r cymorth rydym yn ei roi i’n gweld ni fel ymgeiswyr dilys. Roedd hyn yn golygu cymaint i ni.

“Nid ydym yn cael yr un ymateb ariannol â rhai sefydliadau mwy eraill. Rydym yn wahanol iawn i’r sefydliadau hynny ac mae hynny’n iawn gan ein bod yn mwynhau darparu gwasanaeth cymunedol.

“Roeddem yn effeithiol iawn yn ystod llifogydd Bangor is y coed oherwydd ein bod eisoes wedi hyfforddi 14 o ymatebwyr o ran ymwybyddiaeth am lifogydd gyda thystysgrif Defra 1. Golygai hyn ein bod yn gwybod sut i gadw’n ddiogel oherwydd roeddem yn dilyn hyfforddiant a roddwyd ac nid yn creu problemau pellach i’r gwasanaethau brys.

“Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr ein bod yn gallu hyfforddi mwy o’n pobl ac ein bod yn gallu ei wneud eleni yn hytrach na mewn dwy flynedd pan fuasem wedi codi arian.”

Lansiwyd PACT yn 1998 ac mae’n gweithio law yn llaw gyda’i harianwyr allweddol sef Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae’n gwella ansawdd bywyd drwy leihau trosedd ac ofn trosedd yn y gymuned.

Cafodd yr adroddiad newydd, Llwyddiannau PACT, ei gomisiynu gan Ashley Rogers, Cadeirydd Ymddiriedolwyr PACT, a ymunodd â’r elusen fis Ebrill llynedd. Roedd yn awyddus i sicrhau tystiolaeth annibynnol o effaith ei waith.

Wedi’i chynnal gan Mike Corcoran, ymchwilydd gwadd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, roedd yr astudiaeth effaith yn cynnwys arolwg ar-lein o bawb a dderbyniodd arian. Roedd hyn ar ben cyfweliadau un i un gyda sefydliadau ac adolygiad o ddata a deunydd darllen.  

Mae’r canfyddiadau’n gadarnhaol ran amlaf o lawer, gyda 94% o brosiectau yn adrodd am gysylltiadau cymunedol gwell yn dilyn cymorth gan PACT. Mae 98% o brosiectau yn effeithio’n gadarnhaol ar flaenoriaethau plismona ac roedd 92% o ymatebwyr yn credu bod y gymuned ehangach wedi elwa o’r ymyriad roeddent wedi’i gyflawni drwy’r elusen.

Yn y cyfamser, dywedodd 75% o’r rhai a gyfwelwyd na fyddai eu prosiectau un ai wedi digwydd neu byddant wedi digwydd ar raddfa lai heb PACT.

Dywedodd Ashley Rogers, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Masnachol Cyngor Busnes Mersi a Dyfrdwy: “Cadarnhaodd yr ymchwil hwn werth go iawn y prosiectau mae PACT yn eu cynorthwyo ar amser pan mae gwella iechyd a chynaliadwyedd ein cymunedau yn bwysicach rŵan nag erioed.

“Er ein bod yn siarad yn gyffredinol am botiau llai o arian parod, derbynnir cymeradwyaeth yn sydyn iawn. Mae hyn yn golygu bod cymunedau’n elwa ar unwaith bron. Mae’r cymhelliad mae PACT yn ei roi yn gallu gwneud gwahaniaeth.

“Rydym yn ariannu cymaint o brosiectau yn ystod blwyddyn. Nid ni yw’r ariannwr bob amser. Rydym yn aml yn chwilio am rywfaint o gyllid cyfatebol. Yr hyn sy’n bwysig, fodd bynnag, yw nad yw pobl yn gwirfoddoli eu hamser i fynd drwy broses ymgeisio lafurus sy’n mynd tu hwnt yr amser y byddant yn cyfrannu at brosiect fel arfer.”

Mae’r prosiectau mae PACT yn eu cynorthwyo yn amrywiol, o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol i weithgareddau chwaraeon a chlybiau bocsio amatur. Mae’n cynorthwyo mamau ifanc, yn hyrwyddo diogelwch tân a ffyrdd, yn cynorthwyo’r digartref neu bobl sy’n byw â dementia.

Llwyddiant allweddol i’r elusen yw’r Gronfa Grantiau Bach sy’n galluogi swyddogion heddlu a SCCH i gael mynediad at symiau bach o arian parod hyd at £250 er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol llawr gwlad lleol.

Eglurodd Dave Evans, Rheolwr Prosiect PACT: “Nid y cyllid yw’r cyfan. Mae’r grantiau bach hyn yn cynyddu ymgysylltiad gyda’r tîm cymdogaethau diogelach lleol. Maent yn hyrwyddo cysylltiadau cryfach gyda’r heddlu’n gyffredinol.

“Rydym hefyd yn falch o’n Gwobrau Eich Cymuned Eich Dewis, sy’n cael eu cynnal ar y cyd gyda’r CHTh. Mae’r cyhoedd felly’n rheoli pwy sy’n cael cyllid drwy system bleidleisio ar-lein.

“Nid yn unig y cawsom y potyn mwyaf o gyllid eleni sef £60,000, ond fe gawsom hefyd y nifer uchaf o bleidleisiau sef 32,000 ledled Gogledd Cymru. Mae’n dangos cymaint o ymgysylltiad cymunedol cadarnhaol mae PACT yn ei gyflawni.”

Gyda’u grant PACT eu hunain, mae 4×4 Response Wales yn gobeithio cynyddu eu rolau a’u cyfrifoldebau yn y dyfodol.

Mae gan y grŵp Femorandwm Dealltwriaeth eisoes gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn er mwyn cynorthwyo unrhyw geisiadau am gymorth yn ystod argyfwng ynghyd â phartneriaid Ymatebwyr Cyntaf eraill. Mae hefyd yn aelod o Grŵp Cymorth a Gwirfoddoli Dyngarol Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru ac mae ar gael 365 o ddyddiau’r flwyddyn os oes angen.

Dywedodd Vernon: “Mae cael gweithiwr i’r GIG, sy’n gwneud gwaith hanfodol i’r genedl, yn diolch i chi am yrru drwy’r eira yn rhyfedd ac yn ein gwneud i ni deimlo’n annheilwng. Roedd yr un fath ym Mangor is y coed pan oedd y trigolion mor falch fod rhywun yno i gynorthwyo pan oeddent mewn trafferthion.

“Mae’n anodd iawn rheoli eich emosiynau yn y sefyllfaoedd hynny. Ysbryd cymunedol ydyw ond rydych hefyd yn cael eich gwobrwyo am eich ymdrechion eich hun.”

Dywedodd Nina Ruddle, Pennaeth Polisi Cyhoeddus ac Ymgysylltiad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a chymunedau. Rydym yn cyflwyno ein sgiliau, asedau a chymorth i waith mor bwysig ac ysgogol y mae PACT yn ei arwain.

“Mae’n wych gweld bod yr ymchwil wedi bod mor ddefnyddiol ac yn galluogi PACT i fod yn fwy ysgogol wrth symud ymlaen. Mae gweithio gyda’n gilydd mewn ffordd gyflym ac ymatebol yn allweddol i gynorthwyo ein cymunedau. Mae’n wych chwarae rhan mewn gwaith mor bwysig.”

Ychwanegodd Mike Corcoran: “Roedd yn bleser cynorthwyo PACT wrth ddatblygu’r adroddiad hwn. Mae ein cymunedau’n llawn unigolion angerddol ac ymroddedig, sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

“Drwy astudiaethau fel hyn rydym yn gallu taflu goleuni ar eu gwaith, a datblygu cipolwg a ddylai gynorthwyo’r effeithiau maent yn eu cyflawni i fod yn ddyfnach a pharhau’n hirach.”

PACT – Impact Report – PUBLIC – CYM