A year PACT with success, Police and Community Trust Review 2011/12

Dros y deuddeng mis diwethaf bu Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT) a Trechu Trosedd  yn aruthrol o brysur yn cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol mewn partneriaeth â’r Timau Plismona Cymdogaeth.

Bu modd i PACT ymateb i geisiadau am nawdd ariannol gan 150 o Gwnstabliaid a Swyddogion Cefnogi Cymuned a’u galluogodd nhw i gynorthwyo grwpiau cymunedol lleol gyda mentrau fydd yn helpu i wneud gogledd Cymru yn lle diogelach i fyw.

Mae atal trosedd yn un o flaenoriaethau PACT ac yn ystod 2011/12 cyflwynodd yr ymddiriedolaeth dros 200 o grantiau i helpu amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol yn amrywio o Gynlluniau Gwarchod Coetiroedd, Gwarchod Busnesau a Bugeiliaid Stryd i fentrau i addysgu pobl ifanc am ddiogelwch y ffordd a pheryglon camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Mae chwaraeon yn parhau i fod yn elfen bwysig o fywyd cymunedol ac eleni mae PACT hefyd wedi cynorthwyo swyddogion gyda nifer o brosiectau chwaraeon gan gynnwys rhai ym Mwcle, Wrecsam, Llandudno ac Ynys Môn.

Ym mis Chwefror a Mawrth eleni aeth PACT ar daith ar draws Gogledd Cymru gyda’i weithdy addysgol ‘Cyfiawnder Mewn Diwrnod’ arloesol. Cymerodd 50 o ysgolion a dros 800 o bobl ifanc ran yn y gweithdai drama rhyngweithiol hyn a oedd yn edrych ar y rhesymau y tu ôl i ddigwyddiadau troseddol a’u heffaith ar y troseddwyr, y dioddefwyr a’r gymuned ehangach. Cafodd y project, a ddatblygwyd mewn partneriaeth a Clwyd Theatr Cymru, gefnogaeth ariannol sylweddol gan MagnoxSites, Comtek Network Systems Ltd, Cronfa Addysgol Thomas Howell, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a noddwr corfforaethol dienw o ardal Wrecsam. Mae’r gweithdai ar gyfer 2013 yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd.

Mae cronfa Trechu Trosedd yr Uchel Siryf ar gyfer pobl ifanc Gogledd Cymru yn parhau i fynd o nerth i  nerth a bydd y gronfa’n dathlu ei phen blwydd yn 10 oed yn ddiweddarach eleni.

Manteisiodd dros 40 o grwpiau ieuenctid ar y nawdd o’r gronfa hon eleni i’w cynorthwyo â phrosiectau cysylltiedig â digartrefedd, yfed dan oed, balchder cymunedol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, bwlio a llawer mwy.

Mewn dwy seremoni wobrwyo lwyddiannus ym mis Mawrth enillodd prosiect Digartref Ynys Môn Wobr Trechu Trosedd Uchel Siryf Ynys Môn ac enillodd Clwb Ieuenctid Llandudno wobr Uchel Siryf Clwyd.

             

 

 

 

 

 

Mae’r ddau Uchel Siryf wedi bod yn brysur yn codi arian ar gyfer eu cronfeydd Trechu Trosedd drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, ac yn ddiweddar cwblhaodd Uchel Siryf Gwynedd daith noddedig heriol ond llawn mwynhad o amgylch arfordir Ynys Môn gan godi dros £16,000 o arian fydd yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ieuenctid ar draws yr Ynys.