Prosiect celf arloesol yn helpu cyn-filwyr i ddod o hyd i bwrpas newydd

Mae disgynnydd un o enillwyr Croes Fictoria Rorke’s Drift ymysg cyn filwyr sydd yn profi cyfnod anodd, sy’n canfod perwyl newydd i’w bywydau nhw drwy gelf.

Mae’r gwersi wythnosol, sy’n cael eu cynnal yng Nghartref Alabaré i Gyn Filwyr ym Mae Colwyn, wedi darganfod doniau newydd. Mae eu gwaith yn mynd i gael ei arddangos mewn arddangosfa o’r enw “Peace by Piece” yn ystod y gwanwyn eleni, ym mhencadlys Cyngor Sir Bwrdeistref Conwy yn y dref.

Mae’r gwersi sy’n torri tir newydd, Lles Creadigol drwy Gyfrwng y Celfyddydau (Creative Wellbeing Through the Arts), yn cael eu cynnal gan yr artist Nadia Wazera i’r Cwmni Diddordeb Cymunedol Wintergreen. Maen nhw wedi’u hariannu drwy rodd o £2,000 gan PACT, Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru, ac mae hyd at 10 cyn filwr yn eu mynychu bob wythnos.

Yn eu plith mae Daniel Chard, yn wreiddiol o Wrecsam. Ei gyndad oedd y Rhaglaw John Chard – a chwaraewyd gan Stanley Baker yn y ffilm “Zulu” – a enillodd un o 11 Croes Fictoria ym Mrwydr Rorke’s Drift yn Ne Affrica ym 1879.

Dywedodd y cyn fagnelwr: “Mi ‘roedd gen i broblemau efo cyffuriau a throseddu ar ôl gadael y Fyddin, ond ‘dwi wedi rhoi’r gorau i’r cyffuriau erbyn hyn ac yn byw yma ym Mae Colwyn. ‘Dwi wedi mwynhau’r gwersi.

“’Dwi wedi trio gwaith celf o’r blaen, ond mae’n wahanol pan mae Nadia yn cynnal y gwersi, a ‘dwi wedi cael llawer o fudd ohono.

“Mae hwn yn bendant yn lle da i fod, ac mae gan Nadia rai syniadau gwych ac mae llawer i edrych arno fo.

“’Dwi’n mwynhau’r heriau. Mae’n ddefnydd da o fy amser ac mae’n gwneud daioni i’m lles i.”

Rhywun arall sy’n mynychu’n rheolaidd ydy’r cyn Hyfforddwr Swyddogion Signalau, Gary Dewhurst, yn wreiddiol o Bolton, sydd wedi defnyddio’i ddoniau fel galwedigaeth llawn amser. Mae’n paentio comisiynau yn ogystal â chreu ei waith ei hun.

Dywedodd: “Mi ‘roedd fy mrawd yn arlunydd go iawn, ac mi wnaeth fy nysgu i. Ond mi ‘roeddwn i’n y Fyddin cyn cael fy anafu’n ddrwg yn Irac, ac mi adawais am resymau meddygol ar ôl 11 mlynedd, pan ‘roeddwn wedi bwriadu cyflawni 25 mlynedd.

“’Dwi wedi bod yn Blackpool ac yn Llundain, ac mi ddes i yma rai wythnosau’n ôl. ‘Dwi’n ei hoffi a ‘dwi wedi bod yn helpu efo’r gwersi celf, a ‘dwi wedi mwynhau gwneud hynny.”

Dywedodd Nadia: “Mae cymysgedd o bobl yma, o ledled Gogledd Cymru ac ymhellach i ffwrdd. Mae’r lle yn darparu lloches iddyn nhw, ond ni fuasem ni wedi gallu cynnal y gwersi heb help PACT, ac mae eu help nhw hefyd wedi helpu creu buddsoddiad pellach.

“Mae hwn yn lloches saff iddyn nhw, a weithiau mae’n dda i bobl gael dechrau newydd – does dim meini prawf, ac os ‘da chi’n gyn filwr, ymunwch efo ni.

“I gyd, mae 40 cyn filwr dros dri chartref yn yr ardal, ac mae eu hoedrannau nhw’n amrywio o’u 20au cynnar i dros 70.

“’Dwi wedi gweithio efo cyn filwyr ers tro rŵan, a ‘dwi’n hoffi’r syniad o ddod â nhw at ei gilydd – dyna pryd mae’r hud yn digwydd.”

Dywedodd Cadeirydd PACT, Ashley Rogers: “Mae unrhyw beth allwn ni ei wneud er mwyn ein cyn filwyr, i’w helpu a’u galluogi nhw ryngweithio efo pobl eraill yn hynod o werthfawr, ac mae hwn yn brosiect gwych yn ymwneud ag ymgysylltiad cymunedol.

“Mae’n eu helpu nhw, ac yn dod â’r rhai sydd wedi gwasanaethu eu gwlad at ei gilydd mewn lle saff, ac mae’n amlwg bod help PACT wedi galluogi i’r brosiect ffynnu a pharhau ar adeg hanfodol.

“Mae’r ffaith bod y cyn filwyr yn parhau i fynychu a chymryd rhan yn dangos gwerth a budd y brosiect gelf ar gyfer y cyn filwyr.”

Hefyd yn ymweld oedd Uwch Siryf Clwyd, Karen Farrell. Dywedodd: “Mae hwn yn brosiect gwerth chweil ac mae’n amlwg ei fod wedi bod yn brofiad penigamp.

“Gallwch chi deimlo’r ysbryd cymunedol ac mae’r help ymhlith y rhai sydd yma yn wych.

“Pan ‘dwi’n ymweld efo prosiect fel hyn, mae’n rhoi gwên fawr ar fy wyneb.”

Mae’r gwaith efo’r cyn filwyr yn un o lawer o brosiectau mae PACT wedi’u helpu, sy’n elusen annibynnol wnaeth lansio ym 1998 er mwyn helpu mentrau cymunedol, yn enwedig y rhai mae’r heddlu’n ymwneud efo nhw.

Dros y cyfnod hwn, mae PACT wedi helpu dros 2,500 o brosiectau, gan fuddsoddi mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Ychwanegodd Ashley Rogers: “I nifer o bobl sy’n ymwneud efo’r prosiectau hyn, hwn fydd eu hymgysylltiad cyntaf nhw efo’r heddlu, felly mae creu profiad cadarnhaol yn gallu cael effaith ddwys ar eu penderfyniadau nhw ynglŷn â’u bywydau nhw yn y dyfodol.

“O Wynedd yn y gorllewin, draw i Sir y Fflint a Wrecsam yn y dwyrain, mae PACT yn parhau i helpu prosiectau sy’n galluogi datblygiad cymunedol cadarnhaol a chynaliadwy, a dydy hyn erioed wedi bod mor pwysig nac ydy o rŵan.”