Tystiolaethau teimladwy tadau yn taflu goleuni ar ganlyniadau dirdynnol cam-drin plant yn rhywiol

Mae fideos newydd trawiadol a ryddhawyd gan wasanaeth cymorth trais rhywiol yng Ngogledd Cymru yn rhoi cipolwg dirdynnol ar y poen meddwl y mae troseddau yn erbyn plant yn ei achosi i dadau dioddefwyr.

Comisiynodd Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst (SARC) ym Mae Colwyn y gyfres o ffilmiau byrion, sy’n arddangos adroddiadau pwerus uniongyrchol o brofiadau tadau a gofalwyr gwrywaidd plant sy’n goroesi trais rhywiol o Ogledd Cymru.

Mae eu straeon, sydd i raddau helaeth heb gael eu clywed, yn manylu ar y teimladau o wrthdaro y bu’n rhaid iddynt eu hwynebu eu hunain yn sgil troseddau ofnadwy yn erbyn eu plant. Mae’r ffilmiau’n edrych mewn ffordd emosiynol ar sut roedd teimladau dealladwy o ddicter a dialedd yn cystadlu yn erbyn yr angen i fod yn bresennol i gefnogi a rhoi sicrwydd i’w plentyn.

Mae cyfres arall o gyfweliadau gonest yn archwilio’r materion yr oeddent hwy a’u partneriaid yn eu hwynebu fel cyplau, wrth iddynt ail-adeiladu eu bywydau teuluol ar ôl trawma o’r fath.

Esboniodd tadau a gofalwyr gwrywaidd goroeswyr yn ddidwyll eu hymatebion uniongyrchol i droseddau a achoswyd i’w plant.

Roedd y sylwadau’n cynnwys: “Roeddwn i mor flin. Ro’n i’n gorwedd yn y gwely’n y nos, methu cysgu, meddwl am y peth… yn meddwl bod rhaid i mi amddiffyn fy mhlant…’

“Roedd pob math o bethau’n mynd trwy fy meddwl. I ddechrau, y peth cyntaf yn mynd trwy fy meddwl oedd trais. Roeddwn i eisiau ail-drefnu rhannau o’i gorff…”

“Pan fyddwch chi’n dweud wrth un o’ch ffrindiau, y peth cyntaf fyddan nhw’n ei ddweud wrthych chi ydi ‘iawn, pryd rydyn ni’n mynd lawr yna? Gadewch i ni sortio hyn …”

“Dydych chi ddim yn gwybod sut y dylech chi ymateb pan rydych chi’n ddyn. A ddylwn i fod yn rhoi cweir [i’r tramgwyddwr]? Pan na wnewch hynny, rydych chi’n cwestiynu’ch hun. Ydw i’n ddrwg, felly, am beidio â gweithredu yn y ffordd yna?”

Esboniodd un tad sut y rhedodd allan o’r tŷ wrth glywed y newyddion, a chael ei ddilyn gan ei bartner a ofynnodd beth roedd o’n ei wneud.

Roedd hi’n cofio: “Mi wnaeth o jyst crio ac mi wnes i roi cwtsh iddo a dweud ‘mae hi d’angen di’.”

Mae’r ffilmiau diweddaraf hyn, a elwir yn ‘Tadau a Rhieni’n Rhannu Straeon’, yn adnoddau arloesol pellach i ddioddefwyr a’u teuluoedd a gynhyrchwyd gan Amethyst SARC – a grëwyd gydag arian a roddwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gymunedol (PACT).

Mae ffilm a llyfryn blaenorol a ddatblygwyd gan Amethyst SARC, o’r enw Rhannu Straeon ac sy’n cynnwys tystiolaethau goroeswyr trais rhywiol plant, bellach yn offeryn cymorth gwerthfawr sy’n cael ei ddefnyddio ledled y Deyrnas Unedig.

Ashley Rogers, (Chair PACT) Andy Pearson (Wildkindness Films), Hannah Mart (Amethyst SARC)

Ashley Rogers, (Chair PACT) Andy Pearson (Wildkindness Films), Hannah Mart (Amethyst SARC)

Mae Hannah Mart yn eiriolwr trais rhywiol i blant a phobl ifanc gydag Amethyst SARC. Ei syniad hi oedd datblygu’r ffilmiau newydd.

Eglurodd: “Rwy’n credu ein bod ni’n gwybod nad oedd dim byd arall fel hyn mewn bodolaeth a chyda’n profiad o wneud Rhannu Straeon roedd hyd yn oed y bobl ifanc hynny, a oedd wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth, yn dweud ‘doeddwn i ddim yn gwybod bod pawb arall yn teimlo felly’ pan ddarllenon nhw’r llyfryn.

“Rydyn ni’n gwybod bod trais rhywiol yn gallu bod yn ynysig. Mae cymaint o resymau pam na all pobl siarad am y peth neu resymau pam na chaniatëir iddynt siarad amdano.

“Mae’n ei gwneud hi’n anodd iawn trafod – fel y mynegwyd yn y ffilm – ac mae pobl yn teimlo fel nad oes ganddyn nhw’r iaith i’w drafod.

“Hyd yn oed fel rhywun sy’n brofiadol iawn yn y byd yma, dwi’n aml yn gweld fy hun yn dweud ‘nid dyma’r iaith iawn ond…’

“Ond rydym yn gwybod pa mor bwerus y gall fod i glywed eich profiadau eich hun yn cael eu trafod. Felly dyna oedden ni eisiau ei wneud – dechrau sgwrs, normaleiddio a dilysu profiadau pobl a helpu pobl i ddechrau gwella.”

Mae’r fideos yn croniclo teithiau teuluoedd o’r iachâd hwnnw a delio â’r digwyddiadau trawmatig – a sut y dysgodd tadau ganolbwyntio ar elfennau pwysicaf yr achosion torcalonus hyn, lles eu plant.

Maent hefyd yn dangos gwerth y gefnogaeth mae sefydliadau arbenigol, fel Amethyst SARC, yn ei roi i deuluoedd wrth iddynt lywio bywyd. Mae hynny’n cynnwys mynd ar drywydd cyfiawnder drwy’r system gyfreithiol – os mai dyna mae goroeswyr a’u teuluoedd yn penderfynu ei wneud.

Fel dywedodd un tad: “Mae angen i bobl ddeall, pan maen nhw’n adrodd pethau fel hyn, nad mynd i’r llys neu orsaf yr heddlu yn unig sy’n wirioneddol frawychus – a dwi’n meddwl mai dyna pam nad yw pobl yn [adrodd am droseddau] – ond mae cymuned allan yna sy’n helpu pobl fregus.

“Ac yn gallu siarad â nhw mewn ffordd wahanol i’r modd y gall rhiant siarad â nhw a’u cysuro a’u helpu drwy’r broses o fynd i’r llys – o fynd i orsaf yr heddlu a rhoi tystiolaeth.

“Ar ôl y llys, mae’r system ôl-ofal sydd ar waith yno yn amhrisiadwy. Dwi ddim yn gwybod beth fyddai fy llysferch wedi ei wneud heb hynny.”

Cydnabu Ashley Rogers, Cadeirydd PACT, bwysigrwydd cefnogi’r fenter unigryw hon a dywedodd: “Rwy’n hynod falch bod PACT wedi gallu parhau i gefnogi teuluoedd dioddefwyr ifanc gyda chyfres mor bwerus a theimladwy o ffilmiau.

“Rwy’n siŵr y bydd y ffilmiau hyn yn cael eu defnyddio’n eang ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt, gan gefnogi tadau a theuluoedd sy’n mynd trwy brofiadau tebyg.”

Mae Amethyst SARC yn wasanaeth annibynnol, dan arweiniad y Bwrdd Iechyd, wedi’i leoli yn y Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, ym Mae Colwyn.

Gellir gweld fideos Tadau a Rhieni’n Rhannu Straeon o heddiw ymlaen ar: Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol: Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst yng Ngogledd Cymru – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (GIG.Cymru)