Mae plant mewn rhai o rannau tlotaf Affrica’n cael eu dilladu diolch i sgiliau gwnio tîm o ferched gwirfoddol o Sir Ddinbych.
Mae’r prosiect Dress a Girl Around the World yng Nghanolfan Merched Gogledd Cymru yn y Rhyl lle mae eu grŵp o wniadwragedd brwdfrydig wedi cael hwb gan grant o £700 sy’n prynu chwech o beiriannau gwnïo newydd iddyn nhw.
Byddan nhw’n cael eu defnyddio gan hyd at 20 o wirfoddolwyr 21 i 80 oed. Mae rhai ohonyn nhw’n newydd i wnïo. Maen nhw’n defnyddio eu sgiliau er mwyn troi deunydd sydd wedi’i roi yn ddillad i blant yn Affrica.
Mae’r arian ar gyfer y peiriannau newydd wedi cael ei roi gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT). Mae wedi cael ei groesawu gan Abby Lewis, Prif Swyddog Gweithredol y Ganolfan Ferched.

PACT support North Wales Women’s Centre; Pictured Pauline from the centre with Emma-Rose Skeats. Picture Mandy Jones
Dywedodd: “Gwnaethon ni ddechrau hefo dim ond llawer o ddeunydd sydd wedi’i roi a phump o hen beiriannau gwnïo. Rhaid i ni eu trwsio ein hunain ond rwan ‘da ni’n barod i bacio 50 o wisgoedd a’u hanfon nhw i Affrica.
“Mae rhai o’r merched wedi gwnïo llawer ac maen nhw’n arbennig o dda. Ond ‘da ni hefyd yn profi galw aruthrol gan bobl sydd eisiau gwnïo gan gynnwys llawer o ferched iau a fyddai’n hoffi dysgu.
“‘Da ni’n cynllunio mwy o ddosbarthiadau yn y dyfodol. Mae’n wych cael y peiriannau newydd hyn – byddan nhw’n helpu llawer.”

PACT support North Wales Women’s Centre; Pictured Janet Mosley; Picture Mandy Jones
Dysgodd Dorothy Marlow, 80, sut i wnïo fel plentyn ac fe ddywedodd: “Fe wnes i ddysgu yn yr ysgol uwchradd pan oedd rhaid i chi wneud eich ffrog ysgol eich hun.
“Fe ddois i lawr i’r Ganolfan ac fe welais yr hyn oedden nhw’n ei wneud. Pan wnes i weld yr holl ddeunyddiau hardd a oedd wedi’i roi, roeddwn eisiau rhoi help llaw.
“Roeddwn i wedi gwnïo adref erioed fel hobi ac er mwyn gwneud rhywbeth i fynd allan ar nos Sadwrn. Mae’n braf dod yma a chyfarfod pobl newydd sydd hefo’r un diddordebau. Felly mae o’n rhywbeth cymdeithasol hefyd.
Fe ychwanegodd Abby Lewis: “Mae’n brosiect gwych a ddechreuodd llynedd fel menter Dysgwyr Oedolion Cymru ar gyfer ceiswyr lloches o Afghanistan a Syria yn yr ardal. Pan wnaeth hynny ddod i ben, fe wnaethon nhw gadw’r patrymau a’r peiriannu i ni wneud ein prosiect ein hunain.
“Roeddem ni wedi cael ein cyfyngu gan y nifer o beiriannau. Un diwrnod, roedd gynno ni ddeg o ferched yn disgwyl i un fod yn rhydd. Ond bydd y grant hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r prosiect.”
I ddechrau, roedd PACT wedi dyrannu £400 ar gyfer y grant. Ond fe wnaeth Phil Roberts o CGI, sef noddwr corfforaethol PACT sy’n rhoi cymorth TG i Heddlu Gogledd Cymru, wedi rhoi cyllid ychwanegol.
Dywedodd: “Roedd i’w weld i ni fod hwn yn brosiect gwahanol. Mae o’n greadigol ac yn gwneud llawer o ddaioni yn y gymuned a ledled y byd.
“Mae llawer o ferched sydd hefo’r sgiliau ond ddim y peiriannau a’r deunydd. Roedd yn ein sbarduno ni felly i’w rhoi i gyd at ei gilydd.”
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: “Mae’n wych a hefo sawl agwedd. Mae’n ailgylchu hen ddeunydd a fyddai fel arall yn mynd i gladdfa sbwriel. Ar yr un amser, mae’n defnyddio’r sgiliau gwnïo yn y gymuned hon er mwyn dilladu plant yn Affrica.
“Mae’n dair elfen mewn un. Maent i gyd yn gadarnhaol ac mae’n wych ein bod ni’n gallu cefnogi mentrau lleol fel y Ganolfan Ferched yn y Rhyl. Dwi’n gwybod fod yr help mae’r ganolfan yn ei dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iawn.”
Mae prosiect Dress a Girl Around the World yn un o nifer sydd wedi cael help PACT. Lansiwyd PACT, sy’n elusen annibynnol, yn 1998. Mae’n helpu mentrau cymunedol, yn enwedig y rhai hynny y mae’r heddlu ynghlwm â nhw.
Yn yr amser hwnnw, mae wedi cynorthwyo dros 2,500 o brosiectau, gan fuddsoddi mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Ashley Rogers: “I nifer o bobl sydd wedi bod yn rhan o’r prosiectau, dyma eu cyswllt cyntaf gyda’r heddlu. Felly, mae gwneud hwn yn brofiad cadarnhaol yn gallu cael canlyniadau mawr ar eu penderfyniadau bywyd yn y dyfodol.
“O Wynedd yn y gorllewin draw i Sir y Fflint a Wrecsam yn y dwyrain, mae PACT yn parhau drwy helpu prosiectau sy’n galluogi datblygiad cymunedol cadarnhaol a chynaliadwy. Nid ydy’r help cymunedol erioed wedi bod yn bwysicach na rŵan.”

