Helpu Pobl Ifanc i gadw’n ddiogel Ar-lein ar draws Gogledd Cymru

Gall miloedd o blant nawr gael mynediad at lyfrau diogelwch ar-lein diolch i gydweithrediad rhwng busnes lleol a Heddlu Gogledd Cymru. Yn ystod y prosiect blwyddyn o hyd gwelwyd setiau o’r llyfrau yn cael eu rhannu i bob un o’r 62 ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig sydd yn darparu addysg uwchradd ar draws Gogledd Cymru.

Fel athrawes ysgol gynradd rhan-amser, mae Laura Rowlands o’r Waun, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r cyhoeddwr llyfrau plant arobryn Usborne, yn ymfalchïo o allu paru bron unrhyw lyfr Usborne ag unrhyw blentyn, achlysur neu bwnc ysgol. Yn ôl yn 2022, â’i phlentyn ei hun ar fin dechrau’r ysgol uwchradd, daeth pwysigrwydd dau lyfr penodol oedd wedi’u hanelu at ddisgyblion uwchradd yn amlwg iddi’n gyflym.

Felly, gosododd Laura her i’w hunain o sicrhau bod pob ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru yn cael copi o ddau o  lyfrau Usborne, sef ‘Staying Safe Online’ a ‘Usborne’s Social Media Survival Guide’.

Oherwydd cyfarfod drwy hap mewn digwyddiad yr oedd hi’n mynychu o ran ei llyfrau, rhannodd Laura y syniad gyda PC Dewi Owen o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru, a aeth â’r syniad yn ôl at ei gydweithwyr Dave Evans, Rheolwr Prosiect Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT) a Phillipa Proctor o gwmni ymgynghori technoleg gwybodaeth CGI, a oedd yn gallu darparu cyllid i dalu am y gost o brynu a phostio’r llyfrau i bob un o’r ysgolion.

 

Daeth y tîm at ei gilydd yn ddiweddar i gyflwyno’r llyfrau i bennaeth a’r disgyblion Ysgol Dinas Bran yn Llangollen, gyda’r lluniau drwy garedigrwydd  cyn-ddisgybl Ysgol Dinas Bran, Ethan Gilbert sydd bellach yn rhedeg ei fusnes ffotograffiaeth a fideograffeg ei hun.

Mae’r llyfrau hefyd ar gael i rieni eu prynu ar wefan Laura www.lauraslittlesioplyfrau.co.uk

Prif lun:: (Chwith i’r dde) Mr Mark Hatch, Pennaeth; Laura Rowlands, Partner Annibynnol Usborne; PC Dewi Owen; Phillipa Proctor, CGI; Dave Evans, Rheolwr Prosiect, PACT a disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Dinas Bran

Llun gan: Ethan Gilbert Media

Gwybodaeth bellach:

Yn ogystal â phrosiectau penodol fel hyn, gall busnes Laura – Laura’s Little Siop Lyfrau – hefyd gynnig trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau pwrpasol ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd a meithrinfeydd, gan gynnwys ymweliadau gan awduron (yn y cnawd neu’n rhithiol); digwyddiadau darllen / gwrando noddedig; ffeiriau llyfrau ac Addewidion Llyfr Cymunedol i helpu ysgolion i godi arian ar gyfer prynu  llyfrau newydd; siop lyfrau dros dro yn ystod nosweithiau’r rhieni; cefnogi trawsnewid llyfrgelloedd ysgolion a helpu ysgolion i ymestyn eu cyllidebau ymhellach, boed hynny ar gyfer prynu jig-sos, gemau addysgol, anrhegion groto, llyfrau sy’n ymwneud â phynciau penodol neu llyfrau i’w darllen er pleser yn unig.

Byddai Laura hefyd yn croesawu’r cyfle i fynychu unrhyw ffeiriau ysgol lleol gyda’i siop dros dro, dod â llyfrau hardd i gymuned eich ysgol a helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o darllenwyr.

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, e-bostiwch [email protected]

 

Ynglŷn â CGI

Wedi’i sefydlu ym 1976, CGI yw un o’r cwmnïau gwasanaethau ymgynghori TG a busnes annibynnol mwyaf yn y byd. Gyda 91,500 o ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol ledled y byd, mae CGI yn darparu portffolio un-pen-i’r-llall o wasanaethau, o TG strategol ac ymgynghori busnes i integreiddio systemau, rheoli TG a gwasanaethau prosesau busnes a datrysiadau eiddo deallusol. Mae CGI yn gweithio gyda chleientiaid drwy’r model perthynas lleol wedi’i ategu gan rwydwaith cyflenwi byd-eang sy’n helpu cleientiaid i drawsnewid eu sefydliadau yn ddigidol a gwella canlyniadau.

Dysgwch fwy yn cgi.com