Drama drosedd ddeifiol yn rhoi blas o gyfiawnder i ddisgyblion Llangollen
Mae llanc a rwydwyd gan gang llinellau cyffuriau drygionus i fod yn gyflenwr cyffuriau wedi’i ddedfrydu i 18 mis mewn dalfa ieuenctid.

Photo by Ian Cooper Photography
Clywodd ynadon fod y llanc 16 oed o’r enw Darren wedi’i orfodi i werthu cyffuriau anghyfreithlon ar ôl iddo ddechrau cymryd cyffuriau ei hun a mynd i ddyled.
Cafodd ei ddal pan welwyd ef yn rhoi cyffuriau i rywun arall mewn parti ac fe gafodd ei arestio. Canfu swyddogion heddlu ef gyda MDMA neu Ecstasi, sef cyffur rheoledig Dosbarth A yn ei feddiant.
Pan ymddangosodd ger bron Llys Ynadon Wrecsam, plediodd yn euog i gyhuddiad o feddu cyffuriau gyda bwriad i gyflenwi. Cyfaddefodd y llanc hefyd o fod â chyllell yn ei feddiant.
Roedd golygfeydd emosiynol yn y llys wrth i Darren gael ei arwain i ddechrau ei ddedfryd.
Ond er bod hyn yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, roedd hwn yn weithdy drama a drefnwyd fel rhan o’r prosiect Cyfiawnder mewn Diwrnod arloesol a’r actor Iwan Garmon oedd yn actio ‘Darren’.
Roedd wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) gyda’r nod o roi blas i bobl ifanc o sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a’r effaith ddinistriol gall trosedd ei gael ar deuluoedd a’r gymuned.

Photo by Ian Cooper Photography
Daeth 40 o fyfyrwyr Blwyddyn 10 o Ysgol Dinas Bran yn Llangollen i’r gweithdy undydd, a grëwyd gan actorion a phobl greadigol yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, fel rhan o’u cwrs BTEC mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.
Dywedodd Dave Evans, rheolwr prosiect PACT, mai’r nod ydy rhoi blas i bobl ifanc o sut mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a’r effaith ddinistriol gall trosedd ei gael ar deuluoedd a’r gymuned.
Dywedodd: “Y diben ydy addysgu pobl ifanc am y system cyfiawnder troseddol a chanlyniadau trosedd. Ar ben hyn, mae’n eu cynorthwyo nhw eu hatal rhag dod yn droseddwyr ac yn ddioddefwyr trosedd sydd yr un mor bwysig.
“Mae’r adborth rydym wedi’i gael gan ysgolion a rhai o’r astudiaethau achos rydym wedi’i wneud gyda phobl ifanc dros y blynyddoedd a sut maent wedi elwa o’r gweithdai wedi bod yn eithaf mawr.”
Ychwanegodd nad oedd y senario a gyflwynwyd yn ystod y cwrs undydd ddim byd tebyg i sut y portreadir trosedd ar deledu ac mewn mannau eraill.
Dywedodd Dave: “Bywyd go iawn ydy hwn.”
Dywedodd yr ynad Celia Jenkins wrth y myfyrwyr fod y prosiect gyda’r nod o drosglwyddo’r neges i bobl ifanc nad ydy trosedd “werth y drafferth”.
Dywedodd ei bod wedi dod yn ynad rhyw 20 mlynedd yn ôl ac mae bellach yn eistedd ar y fainc rhyw unwaith yr wythnos yn clywed pob mathau o achosion.
Gan ateb cwestiynau oddi wrth y myfyrwyr, dywedodd: “Mae bob achos yn dechrau yn y Llys Ynadon. Mae rhai mor ddifrifol fod rhaid i ni eu hanfon i Lys y Goron, ond rydym yn ymdrin â phob math o achosion. Mae rhai o’r gwaethaf wedi cynnwys pobl ifanc.”
Eisteddodd Jasmine Wright, disgybl 15 oed, gyda Ms Jenkins a chwarae rôl ynad yn y gweithdy.
Dywedodd: “Rwyf wedi dysgu llawer am sut mae’r system cyfiawnder yn gweithio a’r gwahaniaeth rhwng llysoedd oedolion ac ieuenctid. Mae mwy o amser yn cael ei dreulio ar gyfiawnder ieuenctid, fel nad ydynt yn troseddu eto.
Dywedodd ei chyd-ddisgybl Bradley Richards: “Roeddwn yn gwybod rhai pethau am y system cyfiawnder cynt ond ddim yn gwybod am y pethau roedd y llys yn ei ystyried sef ceisio cynorthwyo’r troseddwr.”
Ychwanegodd Megan Bowen, sydd hefyd yn 15 oed, y gallai’r cwrs arwain ati’n dod yn rhan o orfodi’r gyfraith rhyw dro yn y dyfodol.
Dywedodd: “”Rwyf wedi bod ag awydd dod yn swyddog heddlu ac efallai gwnaf edrych mwy i’r peth.”
Dywedodd Emily Curtis, 15, un arall o ddisgyblion Ysgol Dinas Brân: “Rhan orau heddiw oedd bod yn y llys, yn eistedd yno’n gwrando a gweld yr hyn sy’n digwydd a sut maent yn cael eu dedfrydu a sut mae’r system i gyd yn gweithio.”
Wedi’i ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan Emyr John, cyswllt ymgysylltu creadigol Theatr Clwyd a mab i gyn Uwcharolygydd Heddlu Gogledd Cymru, dywedodd fod Cyfiawnder mewn Diwrnod wedi’i greu er mwyn addysgu pobl ifanc am ganlyniadau trosedd.
Dywedodd: “Mae’r actorion yn dweud yr hanes. Mae’r myfyrwyr yn penderfynu ar yr hyn ddylai’r ddedfryd fod. Ond mae gennym ynad go iawn i draddodi’r ddedfryd ac egluro pam ddaeth y llys i’r penderfyniad hwnnw.
“Anfonir Darren i garchar ieuenctid am 18 mis ac edrychwn ar yr hyn sy’n digwydd a’i brofiadau tra mae wedi’i garcharu.
“Mae ynghylch siarad â phobl ifanc mewn ffordd y gallent ei deall ac yn eu hiaith eu hunain. Mae hefyd o gymorth egluro’r hyn all ddigwydd os ydynt yn cymryd rhan yn y drosedd a sut mae’n effeithio nhw ond hefyd eu teulu a’u ffrindiau.”
Ymysg y rhai a oedd yn bresennol oedd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Dywedodd fod y senario yn nodweddiadol o’r bygythiad a berir i bobl ifanc gan gangiau troseddol:
“Mae’r prosiect Cyfiawnder mewn Diwrnod yn ffordd ddelfrydol o ddysgu pobl ifanc am sut mae’r system cyfiawnder yn gweithio a sut y gall cyflawni troseddau ddinistrio bywydau dioddefwyr a throseddwyr.
“Mae’n bwysig iawn ein bod yn addysgu ein plant, ond mae rhaid i chi gael y cyflwyniad cywir. Rhaid canmol yr actorion yma o Theatr Clwyd sydd wedi ei gyflwyno ar y lefel iawn.
“Mae’r bobl ifanc yma heddiw yn cymryd rhan go iawn ac mae’r holl wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn codi eu hymwybyddiaeth o’r hyn all ddigwydd iddyn nhw mewn ffordd nad allem wneud mewn ystafell ddosbarth.”

