Cymorth PACT i Stingrays Bae Colwyn

Cymorth PACT i Stingrays Bae Colwyn

Mae Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned wedi cynorthwyo clwb rygbi gallu cymysg Stingrays Bae Colwyn gyda grant o £1500 er mwyn ariannu cit ac offer tîm newydd. Cyflwynodd David Wynne-Finch, Uchel Siryf Clwyd, y cit i’r clwb yr wythnos ddiwethaf.

Mae  Stingrays Bae Colwyn yn glwb rygbi gallu cymysg wedi’i addasu i bobl gydag anableddau ac sy’n 14 oed a hŷn. Hwn yw’r unig glwb gallu cymysg yng Ngogledd Cymru felly daw chwaraewyr o ardal eang, o Lannau Dyfrdwy i Ddolgellau, i chwarae fel rhan o’r tîm.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn gefnogol o ran cynnal digwyddiadau a chynorthwyo gyda marchnata’r gêm gallu cymysg, er mae’r Stingrays yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Maent yn cynorthwyo gyda chludo a gofalu am yr aelodau fel y gallent gymryd rhan.

Yn flaenorol roedd rhaid i’r tîm orfod dibynnu ar fenthyg eu cit gan dimau eraill. Ond byddant bellach yn gallu ymfalchïo chwarae yn eu crysau newydd, gan gynorthwyo i roi hunaniaeth i’r clwb, hwb i’r hunan hyder a rhoi ymdeimlad o berthyn i gymuned i’w aelodau. Anogir hefyd mwy o bobl i ymuno.

Dywedodd yr Arolygydd Dafydd Curry, a gefnogodd y cais grant: “Mae’r clwb hwn yn adnodd gwerthfawr i oedolion ifanc gydag anableddau sy’n cael trafferth cymryd rhan mewn llawer o bethau cymdeithasol eraill. Rwyf wedi gweld sut mae wedi trawsnewid llawer o’i aelodau. 

“Mae’r math hwn o amgylchfyd yn hanfodol i bobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sy’n fregus o ran problemau ymddygiad neu iechyd meddwl a all fel arall fod yn agored i droi at Ymddygiad Gwrthgymdeithasol neu drosedd.

“Yn ddi-os bydd hyn yn cyfeirio rhai pobl ifanc at beidio cael eu denu i’r system cyfiawnder troseddol a bydd yn lleihau galw ar yr heddlu.

“Mae’r clwb yn rhoi amgylchfyd therapiwtig a chynorthwyol iddynt a fydd yn eu galluogi i ddatblygu eu hyder a ffurfio cysylltiadau cadarnhaol gyda rhai eraill yn y tîm a gwirfoddolwyr. Mae’n wych bod PACT Gogledd Cymru yn gallu eu cynorthwyo.”

Dywedodd David Wynne Finch, Uchel Siryf Clwyd:

“Roeddwn yn falch o gael gwahoddiad i weld drosof fy hun y gwaith aruthrol a hanfodol mae Stingrays yn ei wneud i gynorthwyo pobl ifanc drwy bêl droed rygbi. Rwyf yn hynod falch fod Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned wedi gallu cynorthwyo’r clwb a chyflwyno’u cit newydd iddynt. Rhaid i fi hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r tîm o wirfoddolwyr a arweinir gan Daf Curry sy’n rhedeg y clwb.”

Elusen diogelwch cymunedol yw Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) sy’n ceisio a chefnogi prosiectau sy’n annog amgylchfyd mwy diogel er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl Gogledd Cymru.