Mae un o arweinwyr busnes Gogledd Cymru newydd ymgymryd â Chadeiryddiaeth wirfoddol Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT). Mae Ashley Rogers yn adnabyddus yng Ngogledd Cymru ac yng nghylchoedd busnes y gogledd-orllewin yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Masnachol a chyn Gadeirydd Cyngor Busnes Gogledd Cymru, yn ogystal â rhedeg ei fusnes ymgynghori ei hun a dal nifer o swyddi rhanbarthol yng Ngogledd Cymru.
Ers 1998 mae PACT wedi bod yn cefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned ar draws Gogledd Cymru gyda grantiau sy’n helpu i ddwyn ynghyd ac adeiladu cymunedau diogel a gwydn, ac mae’n falch iawn o groesawu Ashley i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr gan ddod â chyfoeth o brofiad o’r sector preifat yn y DU ac yn rhyngwladol i PACT.
Mae Ashley, cyn ddisgybl o Ysgol Uwchradd Prestatyn, wedi gweithio ym maes Datblygu Masnach Ryngwladol ar gyfer Gweriniaeth Iwerddon a Marchnata Ewropeaidd ar gyfer prif fusnesau cynhyrchion defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America, sydd wedi’u lleoli yn y DU ac yn Ewrop.
Dychwelodd Ashley i Ogledd Cymru, lle’r ganed yn 2011 ar ôl llwyddo i gwblhau taith gerdded 1,200 milltir ar ben ei hun o John O’Groats i Land’s End ar gyfer Tŷ Gobaith.
Mae Ashley yn rhedeg ei fusnes ei hun wrth gyflawni rôl ranbarthol ar y Cyngor Busnes sy’n cynrychioli 12 a mwy o gyrff busnes gan gynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach, a Siambr Fasnach a Thwristiaeth Gogledd Cymru. Bu’n aelod o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru am bedair blynedd a fo yw Arweinydd y Sector Preifat dros Ogledd Cymru ar y Tasglu Rheilffyrdd trawsffiniol Growth Track 360.
Mae gan Ashley brofiad eang o weithio a byw mewn sawl rhan o’r byd. Aeth i grwydro ar ôl darfod ei gwrs prifysgol – gan weithio yn Awstralia a theithio drwy Asia a gweithio am gyfnod mewn kibbutz yn Israel ac yna gweithio yn yr Iseldiroedd, Ffrainc, Sbaen a’r Eidal.
Mae Ashley yn falch iawn o gael ei wahodd i fod yn Gadeirydd PACT a chael cyfle nid yn unig i barhau â’r gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud, ond hefyd i helpu ac arwain datblygiad y gwaith hwnnw a chael hyd yn oed fwy o effaith wrth gefnogi cymunedau ar draws Gogledd Cymru.
Dywedodd Ashley: “Nid yw iechyd a lles ein cymunedau erioed wedi bod yn bwysicach, ac rwy’n falch o gymryd yr awenau fel Cadeirydd yn dilyn ac adeiladu ar waith y Prif Gwnstabl a’r diweddar David Williams MBE. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n Hymddiriedolwyr, y CHTh, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid ehangach gan gynnwys y gymuned fusnes er budd ein trigolion. ”
Dywedodd y Prif Gwnstabl, Carl Foulkes: “Mae PACT yn gorff hynod gefnogol sy’n gwneud i bethau ddigwydd ar draws Gogledd Cymru i gefnogi plismona a blaenoriaethau’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Mae wedi bod yn fraint cael cadeirio’r grŵp hyd nes y penodir Ashley ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ag ef gan ei fod yn dod â chymaint i’r swydd. “

