{"id":1900,"date":"2019-10-09T14:52:43","date_gmt":"2019-10-09T14:52:43","guid":{"rendered":"http:\/\/staging.pactnorthwales.co.uk\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/"},"modified":"2019-10-09T14:52:43","modified_gmt":"2019-10-09T14:52:43","slug":"encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/","title":{"rendered":"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people."},"content":{"rendered":"<p>Mae clwb ieuenctid sy&#8217;n darparu man cyfarfod diogel i bobl ifanc LHDT+ deimlo&#8217;n gyfforddus a hapus wedi derbyn hwb &#8211; diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr.<\/p>\n<p>Mae elusen GISDA yng Ngwynedd, sy&#8217;n cefnogi pobl ifanc o bob cwr o&#8217;r sir, yn ogystal \u00e2 rhannau eraill o&#8217;r rhanbarth, wedi bod yn rhedeg y clwb pythefnosol o&#8217;u canolfan yng Nghaernarfon ers 2017 ar \u00f4l adnabod yr angen am leoliad lle mae&#8217;r rhai sy&#8217;n adnabod eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a &#8216;plws&#8217;, sy&#8217;n cynrychioli hunaniaethau rhywiol eraill, fynegi eu hunain yn rhydd a darparu cefnogaeth i&#8217;w gilydd.<\/p>\n<p>Yn awr, diolch i grant o \u00a32,500 o gronfa arbennig a ddosbarthwyd gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, gall GISDA gyflogi gweithiwr prosiect i gefnogi&#8217;r clwb ieuenctid sy&#8217;n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy&#8217;n denu mwy na 60 o bobl ifanc o 12-25 oed .<\/p>\n<p>Daw\u2019r grant o gronfa arbennig sydd wedi cael ei dosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, sydd \u00e2 chyfanswm o \u00a361,901 ynddi eleni ac sy\u2019n cynnwys dau gyfraniad mawr a neilltuwyd yn benodol i ymladd bygythiad Llinellau Cyffuriau.<\/p>\n<p>Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy\u2019n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.<\/p>\n<p>Daw\u2019r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy\u2019r Ddeddf Elw Troseddau gyda\u2019r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.<\/p>\n<p>Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at \u00a32,500 yr un ar gyfer dau gr\u0175p gyda \u00a35,000 yr un hefyd wedi\u2019i neilltuo ar gyfer dau gr\u0175p arall sy\u2019n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.<\/p>\n<p>Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o \u00a310,000 ar gael.<\/p>\n<p>Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy\u2019n delio \u00e2 phroblemau sy\u2019n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a\u2019u bygwth \u00e2 thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.<\/p>\n<p>Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o\u2019r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i\u2019r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.<\/p>\n<p>Yr ymgeisydd llwyddiannus arall yng Ngwynedd oedd Academi West End ym Mangor a dderbyniodd \u00a32,500 i weithio gyda gwirfoddolwyr o Brifysgol Bangor a&#8217;r Heddlu i greu ardaloedd mwy diogel i blant lleol.<\/p>\n<p>Mae GISDA yn darparu llety, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc sy\u2019n agored i niwed a digartref trwy amrywiaeth o wahanol brosiectau, ac mae gan yr elusen ddwy hostel ym Mlaenau Ffestiniog a Chaernarfon yn ogystal \u00e2 dau d\u0177 wedi eu dodrefnu&#8217;n llawn yn Nolgellau.<\/p>\n<p>Wrth siarad am y clwb ieuenctid LHDT +, dywedodd arweinydd y t\u00eem, Lee Duggan: \u201cYr ymateb llethol a gawn gan bobl ifanc yw eu bod nhw\u2019n gymuned ac mae hyn yn rhywle y gallan nhw deimlo&#8217;n ddiogel i fynegi eu hunain.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhain yn bobl ifanc sydd ar y cyrion ond mae&#8217;r clwb yn rhoi llwyfan iddyn nhw fod yn nhw eu hunain a bod yn agored. Mae&#8217;n rhywbeth maen nhw&#8217;n ei werthfawrogi.<\/p>\n<p>Mae gennym dros 60 o bobl ifanc ac fel arfer mae tua 40 yn troi fyny ar y noson. Maen nhw\u2019n dod o bob man.<\/p>\n<p>Mae gennym gr\u0175p sy&#8217;n teithio o Blaenau i&#8217;r clwb ac chriwiau eraill sy&#8217;n dod yr holl ffordd o Ynys M\u00f4n, Conwy a hyd yn oed cyn belled \u00e2&#8217;r Rhyl. Yn draddodiadol rydym yn darparu ystod o wasanaethau i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, ond rydym hefyd yn cael pobl yn dod i\u2019r clwb sydd mor ifanc \u00e2 12 oed.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n dangos angen a gwerth y clwb, a\u2019r ffaith bod angen creu mwy mewn ardaloedd eraill.&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r grant o \u00a32,500 wedi galluogi&#8217;r elusen i gyflogi gweithiwr prosiect am 10 awr yr wythnos sydd \u00e2 phrofiad i sylwi unrhyw risg neu fregusrwydd ac i arwain pobl ifanc yn briodol.<\/p>\n<p>Bydd y r\u00f4l hefyd yn galluogi&#8217;r clwb i feithrin cysylltiadau gyda gwasanaethau perthnasol eraill a dod o hyd i ffyrdd o gael arian fel y gallai fod yn gynaliadwy yn y tymor hir.<\/p>\n<p>Dywedodd Lee: &#8220;Rydym yn awyddus i adeiladu rhwydweithiau gyda sefydliadau, ysgolion, prifysgolion a chlybiau ieuenctid eraill.<\/p>\n<p>Bydd yr aelod newydd o staff hefyd yn cydlynu teithiau a chodi arian ar raddfa fach fel y gall y bobl ifanc gymryd perchnogaeth. Mae angen i ni weld beth arall y gallwn ei wneud i wneud y clwb yn gynaliadwy.<\/p>\n<p>Gallwn gael ychydig mwy o strwythur nawr a sefydlu cynllun ar gyfer digwyddiadau ar gyfer y misoedd nesaf.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r grant hwn yn hanfodol i ni. Nid yw&#8217;r gwasanaeth yn gynaliadwy i&#8217;w redeg gan wirfoddolwyr yn unig. Roedd yn anodd dychmygu peidio \u00e2 chadw&#8217;r clwb.&#8221;<\/p>\n<p>Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda\u2019r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: \u201cRwy\u2019n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gronfa unigryw yma\u2019n caniat\u00e1u i\u2019n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae\u2019r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau\u2019r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.<\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiectau yma\u2019n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd \u00e2\u00b4r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i\u2019r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.<\/p>\n<p>Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o\u2019r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy\u2019n dod i&#8217;r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus<\/p>\n<p>Fel rhan o hyn, rwy\u2019n bwriadu sicrhau bod ffocws clir yn parhau i gael ei roi ar droseddau llinellau cyffuriau &#8211; ffurf filain o droseddu sy\u2019n cymryd mantais ar bobl ifanc bregus a\u2019u troi at fywyd o droseddu sy\u2019n beryglus a threisgar iawn lle nad oes llawer o ffyrdd i ddianc ohono.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n falch iawn o weld bod nifer o\u2019ch ceisiadau yn ceisio mynd i&#8217;r afael \u00e2\u2019r broblem hon a chefnogi ein pobl ifanc.<\/p>\n<p>Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld \u00e2 hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Sacha Hatchett: \u201cMae\u2019r arian yma\u2019n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro\u2019r troseddwyr lle mae\u2019n eu brifo fwyaf &#8211; eu pocedi.<\/p>\n<p>Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddau difrifol gan gynnwys troseddau traws-ffiniol, lladradau arfog, defnydd anghyfreithlon o ddrylliau yn ogystal \u00e2 chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhai sy\u2019n rhan o droseddu difrifol yn aml iawn yn byw ymhell tu hwnt i\u2019w modd, drwy yrru ceir drud, byw mewn tai mawr a mynd ar wyliau dramor yn aml; ac mae\u2019n bosib iawn eu bod yn gallu byw bywyd fel hyn oherwydd yr elw maent wedi\u2019i wneud o droseddau.<\/p>\n<p>Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy\u2019n cael ei rhoi i\u2019r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod \u00e2\u2019r troseddwyr yma o flaen eu gwell.<\/p>\n<p>Mae\u2019n danfon neges bositif bod arian sy\u2019n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Lyndsey Thomas o GISDA yn derbyn eu gwobr Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett ar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae clwb ieuenctid sy&#8217;n darparu man cyfarfod diogel i bobl ifanc LHDT+ deimlo&#8217;n gyfforddus a hapus wedi derbyn hwb &#8211; diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr. Mae elusen GISDA yng Ngwynedd, sy&#8217;n cefnogi pobl ifanc o bob cwr o&#8217;r sir, yn ogystal \u00e2 rhannau eraill o&#8217;r rhanbarth, wedi bod yn rhedeg y clwb pythefnosol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1649,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","ngg_post_thumbnail":0,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1900","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.9 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people. - North Wales Police and Community Trust<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people. - North Wales Police and Community Trust\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae clwb ieuenctid sy&#8217;n darparu man cyfarfod diogel i bobl ifanc LHDT+ deimlo&#8217;n gyfforddus a hapus wedi derbyn hwb &#8211; diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr. Mae elusen GISDA yng Ngwynedd, sy&#8217;n cefnogi pobl ifanc o bob cwr o&#8217;r sir, yn ogystal \u00e2 rhannau eraill o&#8217;r rhanbarth, wedi bod yn rhedeg y clwb pythefnosol [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"North Wales Police and Community Trust\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2019-10-09T14:52:43+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/photo-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"400\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"266\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"pactadmin\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@PACTNorthWales\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@PACTNorthWales\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"pactadmin\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"pactadmin\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b523659a3c7508980041e54a0d2427fd\"},\"headline\":\"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people.\",\"datePublished\":\"2019-10-09T14:52:43+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/\"},\"wordCount\":1362,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/10\\\/photo-1.jpg\",\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/\",\"name\":\"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people. - North Wales Police and Community Trust\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/10\\\/photo-1.jpg\",\"datePublished\":\"2019-10-09T14:52:43+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/10\\\/photo-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2019\\\/10\\\/photo-1.jpg\",\"width\":400,\"height\":266},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/cy\\\/2019\\\/10\\\/09\\\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people.\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/\",\"name\":\"North Wales Police and Community Trust\",\"description\":\"My WordPress Blog\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#organization\",\"name\":\"North Wales Police and Community Trust\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/08\\\/Logo-04.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/08\\\/Logo-04.png\",\"width\":836,\"height\":321,\"caption\":\"North Wales Police and Community Trust\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/x.com\\\/PACTNorthWales\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.pactnorthwales.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/b523659a3c7508980041e54a0d2427fd\",\"name\":\"pactadmin\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a78fa71c8463afe9b857f55ef6327ebafe1345cdf0747aa8814d8fb80004ae43?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a78fa71c8463afe9b857f55ef6327ebafe1345cdf0747aa8814d8fb80004ae43?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a78fa71c8463afe9b857f55ef6327ebafe1345cdf0747aa8814d8fb80004ae43?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"pactadmin\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people. - North Wales Police and Community Trust","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people. - North Wales Police and Community Trust","og_description":"Mae clwb ieuenctid sy&#8217;n darparu man cyfarfod diogel i bobl ifanc LHDT+ deimlo&#8217;n gyfforddus a hapus wedi derbyn hwb &#8211; diolch i arian a atafaelwyd gan droseddwyr. Mae elusen GISDA yng Ngwynedd, sy&#8217;n cefnogi pobl ifanc o bob cwr o&#8217;r sir, yn ogystal \u00e2 rhannau eraill o&#8217;r rhanbarth, wedi bod yn rhedeg y clwb pythefnosol [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/","og_site_name":"North Wales Police and Community Trust","article_published_time":"2019-10-09T14:52:43+00:00","og_image":[{"width":400,"height":266,"url":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/photo-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"pactadmin","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@PACTNorthWales","twitter_site":"@PACTNorthWales","twitter_misc":{"Written by":"pactadmin","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/"},"author":{"name":"pactadmin","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#\/schema\/person\/b523659a3c7508980041e54a0d2427fd"},"headline":"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people.","datePublished":"2019-10-09T14:52:43+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/"},"wordCount":1362,"publisher":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/photo-1.jpg","inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/","url":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/","name":"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people. - North Wales Police and Community Trust","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/photo-1.jpg","datePublished":"2019-10-09T14:52:43+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/photo-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/wp-content\/uploads\/2019\/10\/photo-1.jpg","width":400,"height":266},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/2019\/10\/09\/encash-seized-from-crooks-provides-safe-meeting-place-for-young-lgbt-and-people\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"[:en]Cash seized from crooks provides safe meeting place for young LGBT and people."}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/","name":"North Wales Police and Community Trust","description":"My WordPress Blog","publisher":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#organization","name":"North Wales Police and Community Trust","url":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Logo-04.png","contentUrl":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Logo-04.png","width":836,"height":321,"caption":"North Wales Police and Community Trust"},"image":{"@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/x.com\/PACTNorthWales"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/#\/schema\/person\/b523659a3c7508980041e54a0d2427fd","name":"pactadmin","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a78fa71c8463afe9b857f55ef6327ebafe1345cdf0747aa8814d8fb80004ae43?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a78fa71c8463afe9b857f55ef6327ebafe1345cdf0747aa8814d8fb80004ae43?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a78fa71c8463afe9b857f55ef6327ebafe1345cdf0747aa8814d8fb80004ae43?s=96&d=mm&r=g","caption":"pactadmin"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1900","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1900"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1900\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1649"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1900"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1900"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.pactnorthwales.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1900"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}